Bele goed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 83:
Daeth pob un namyn naw o'r 272 o sylwadau o barthau i'r gogledd o Fachynlleth. Mae'n ddirgelwch hyd yma p'un ai cynrychioli poblogaeth wasgaredig, ynteu ambell anifail caeth a ddihangodd, ynteu camgymeriad, yw'r ychydig a ddaeth i law o'r deheubarth. Yn sicr nid camgymeriad mohonynt i gyd gan mai corff sydd bellach wedi ei gadw yn yr Amgueddfa Genedelaethol yw sail un cofnod o Frycheiniog. A sôn am gamgymeriadau, amhosib yn y pen draw yw penderfynu pa mor ddibynadwy yw'r cofnodion unigol. Nid ymgeisiwyd felly i wahaniaethu rhyngddynt yn yr arolwg ar wahan i nithio ambell ddisgrifiad oedd yn amlwg yn cyfeirio at ffwlbart. Ni wnaethpwyd hynny chwaith cyn ei gytuno gyda'r sylwebydd. Gallasai'r goreuon yn ein plith gamgymeryd y bele yng ngwyll y goedwig nid yn unig am ffwlbart, ond am gath, dyfrgi, minc neu lwynog, and petai hynny wedi digwydd ar raddfa helaeth, ni fyddai'r cofnodion wedi dangos dosbarthiad mor nodweddiadol.
[[File:Map bele ffig 2.jpg|thumb|chwith|Y BELE GOED map 2: cymhariaeth dosbarthiad y bele a'r ffwlbart yn Nghymru yn ôl Arolwg 1987.]]
[[File:Map bele ffig 3.jpg|thumb|chwith|map Bele goed yn dangos lleoliadau a niferoedd cofnodion y bele yng ngogledd Cymru Arolwg 1987]]
 
Cymharer yn ffigwr 2 arwahan-rwydd cofnodion y bele a'r ffwlbart, a sylwer hefyd ar y crynhoad o gofnodion mewn ardaloedd arbennig. (Casglwyd y wybodaeth am y ffwlbart dros gyfnod hwy and gyda'r un cydweithrediad gan y cyhoedd.)