Bele goed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 108:
===Y Bele Yfory===
 
'Deuparth gwaith yw ei ddechrau' medd yr hen air, a dechrau'r gwaith nid ei ddiwedd sydd yma. Ym 1988 comisiynwyd un a chanddo brofiad helaeth o'r bele yn ei wir gadarnle yn yr Alban i wneud arolwg-maes yng Nghymru. Canolbwyntiodd yn ei waith ar yr ardaloedd mwyaf addawol a amlygwyd yn Arolwg '87, ac fe gadarnhaodd yn fuan gywirdeb y wybodaeth a gasglwyd. Ond rhag i neb laesu dwylo, dylid cofio mai anifail sydd yn beryglus o brin o hyd yw bele'r coed ac mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom i sicrhau ei ddyfodol. [[File:Map bele ffig 5.jpg|thumb|chwith|map yn dangos dosbarthiad olion bele coed go iawn i'w cymharu a chanlyniadau arolwg 1987]]Ni wyddys eto beth yw'r rhesymau am ei brinder, nac yn wir as mai ar gynnydd ynteu parhau ar drai y mae. Erfynwn felly ar bawb a gafodd, neu a gaiff, gip ar y creadur hynod hwn, i hysbysu'r Cyngor Gwarchod Natur o'r ffaith rhag blaen. I'r rhai a chanddynt ddiddordeb arbennig, da o beth fyddai iddynt chwilio am olion y bele, ei faw neu olion ei draed ar hyd llwybrau a hwylfeydd y fforestydd. Byddai haenen denau o eira yn hwyluso'r gwaith hwnnw yn fawr. Gyda mwy o wybodaeth am anghenion y bele goed yn ei gynefin yng Nghymru, bydd yn bosib, ymhen amser, i gynllunio ac i neilltuo tir ar ei gyfer, ac hefyd rhyw ddydd efallai ei drawsblannu yn ôl i'r ardaloedd a'i collodd. Ond am y tro o leiaf, fe ddangosodd pobl Cymru, yn Arolwg '87, fod y bele Yma o Hyd.
 
Duncan Brown <br>