Michael Collins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 20:
Pan ddechreuodd [[Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon]] gydag ymladd rhwng [[Byddin Weriniaethol Iwerddon]] a'r lluoedd arfog Prydeinig, yn cynnwys y "Black and Tans", roedd Collins yn chwarae rhan amlwg iawn. Er gwaethaf holl ymdrechion y milwyr a'r plismyn Prydeinig, ni allasant ei ddal, er ei fod yn aml yn cerdded heibio iddynt ar strydoedd Dulyn. Ar [[21 Tachwedd]] [[1920]] trefnodd Collins i'w ŵyr saethu 14 o swyddogion y fyddin Brydeinig oedd yn casglu gwybodaeth am y gwrthryfelwyr. Fel dial, aeth mintai o'r ''Black and Tans'' i gêm [[pêl-droed Wyddelig]] yn [[Croke Park]] yn Nulyn a saethu i'r dyrfa, gan ladd deuddeg, yn cynnwys un o'r chwaraewyr. Cofir am y diwrnod fel ''Bloody Sunday''.
 
Erbyn 19221921 roedd y llywodraeth Brydeinig yn barod i drafod telerau heddwch, ac aeth Collins gyda nifer o arweinwyr eraill i Lundain i negodi gyda llywodraeth [[David Lloyd George]]. CynigiwydYn [[Cytundeb Eingl-Wyddelig|Nghytundeb Eingl-Wyddelig]] cynigiwyd iddynt weriniaethwladwriaeth annibynnol, yr hyn ddaeth yn [[Gwladwriaeth Rydd Iwerddon|Wladwriaeth Rydd Iwerddon]] ar yr amod fod chwech sir yng ngogledd yr ynys yn parhau dan lywodraeth Brydeinig fel [[Gogledd Iwerddon]]. Cytunodd Collins a'r lleill, er ei fod yn gwybod y byddai hyn yn annerbyniol gan rai o'r rhai oedd wedi bod yn cyd-ymladd ag ef. Aeth yn [[Rhyfel Cartref Iwerddon|rhyfel cartref]] yn erbyn y rhai oedd yn gwrthod derbyn y cytundeb, yn cynnwys [[Éamon de Valera]]. Gerllaw Corc ar 22 Awst,1922 roedd Collins yn teithio mewn modur pan ymosodwyd arno gan fintai oedd yn gwrthwynebu'r cytundeb. Gallasant fod wedi gyrru ymlaen allan o berygl, ond mynnodd Collins aros a chymeryd rhan yn yr ymladd ei hun. Tarawyd ef gan fwled a'i ladd yn y fan.
 
==Cofadail==