Éamon de Valera: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
'''Éamon de Valera''' (ganwyd '''Edward George de Valera''', enw [[Gwyddeleg]] '''Éamonn de Bhailéara''') ([[14 Hydref]] [[1882]] - [[29 Awst]] [[1975]]), oedd un o arweinyddion y mudiad dros annibyniaeth Iwerddon oddi wrth Brydain ar ddechrau'r ugainfed ganrif. Cymerodd ran yng [[Gwrthryfel y Pasg|Ngwrthryfel y Pasg]] yn [[1916]], a bu bron iddo gael ei ddienyddio gydag arweinwyr eraill y gwrthryfel.
 
Gwrthododd arwain y ddirprwyaeth a aeth i Lundain i gael Cytundeb gyda Llywodraeth Prydain. Arhosodd yn ôl yn Nulyn. Ond roedd yn anghytuno'n llwyr gyda'r teledau a arwyddwyd ar ei ran gan [[Michael Collins]], [[AthurArthur Griffith]] a'r dirprwyaeth, ac yn flin na wnaethant gysylltu a thrafod ag ef cyn arwyddo. Achosodd teledau'r cytunedb a arwyddwyd, [[Cytundeb Eingl-Wyddelig]] iddo ymddiswyddo fel Arlywydd Iwerddon.
 
Yn ddiweddarch daeth yn arweinydd yr wrthblaid Weriniaethol yn ystod y [[Rhyfel Cartref Iwerddon]] 1922-23. Wedi methiant y Rhyfel Cartref i newid polisi y wladwriaeth newydd, fe sefydlodd de Valera blaid weriniaethol newydd, [[Fianna Fáil]] a ddaeth fewn i rym yn 1932. Yn ddiweddarach, daeth yn Brif Weinidog dair gwaith (y tro cyntaf fel ail Arlywydd y Cyngor Gweithredol, ac fel y [[Taoiseach]] cyntaf (teitl y Prif Weinidog yn ôl Cyfansoddiad 1936)). Gorffennodd ei yrfa wleidyddol fel trydydd [[Arlywydd Iwerddon|Arlywydd]] [[Gweriniaeth Iwerddon]] (Gwyddeleg: ''Uachtarán na hÉireann''), rhwng [[25 Mehefin]] [[1959]] a [[24 Mehefin]] [[1973]].