Glofa Gresffordd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Delwedd:Gresfordmem1.jpg|250px|bawd|Y gofeb i Drychineb Gresffordd]]
[[Pwll glo]] ger [[Wrecsam]] oedd '''Glofa Gresffordd'''. Mae'n enwog am y drychineb a ddigwyddodd ar [[22 Medi]], [[1934]], pan gafodd 265 o bobl eu lladd trwy ffrwydrad nwy yn y pwll. Mae hi'n un o'r trychinebau pyllau glo mwyaf erchyll ymyn Mhrydainhanes [[Prydain]].
 
Digwyddodd y drychineb yn ystod y sifft nos, pan roedd rhyw 500 o lowyr yn gweithio dan ddaear, llawer ohonynt yn gweithio sifftiau dwbl. Hyd heddiw, does neb yn gwybod beth achosodd y ffrwydrad nwy laddodd cymaint ohonynt. Bu'n rhaid cau'r lofa lle digwyddodd y drychineb am gryn amser rhag ofn y digwyddai ffrwydriadau eraill ac o ganlyniad bu raid gadael 254 o gyrff yn y pwll. Ailagorwyd y pwll chwech mis yn ddiweddarach, heblaw am ran "Denis" y pwll lle y digwyddodd yny ddamwaindamwain.
 
Gadawai'r glowyr a gollodd eu bywydau weddwon a phlant. Casglwyd dros £566,500 mewn cronfa arbennig a sefydlwyd gan Faer Wrecsam ar eu cyfer.