Historia Regum Britanniae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Caerdroia -> Caerdroea
Llinell 1:
Llyfr enwocaf yr awdur [[Cambro-Normaniaid|Cambro-Normanaidd]] [[Sieffre o Fynwy]] (c.1100 - c.1155) yw '''''Historia Regum Britanniae''''' ('Hanes Brenhinoedd Prydain'), a gyhoeddwyd ganddo tua'r flwyddyn [[1136]]. Dyma'r llyfr fu'n bennaf gyfrifol am ymledu chwedl [[y Brenin Arthur]] ledled Ewrop yn yr [[Oesoedd Canol]]. Ffug hanes a geir yn y llyfr, a ysgrifenwyd yn [[Lladin]], ond roedd ei ddylanwad yn aruthrol. Cyfeirir ato yn aml fel '''Brut Sieffre''' (neu'r '''Brut''') a chafwyd sawl trosiad [[Cymraeg Canol]] dan yr enw '''''[[Brut y Brenhinedd]]''''': fersiwn ''[[Brut Dingestow]]'' yw'r testun mwyaf adnabyddus. Ceir cyfieithiadau mewn sawl iaith arall hefyd.
 
[[Delwedd:Arthur3487.jpg|200px|de|bawd|Sieffre oedd yn bennaf gyfrifol am greu'r ddelwedd boblogaidd o'r Brenin Arthur]]
 
Mae'r llyfr yn adrodd hanes honedig [[Ynys Prydain]] o ddyfodiad [[Brutus|Brutus o GaerdroiaGaerdroea]], disgynnydd [[Aeneas]], hyd farwolaeth y brenin [[Cadwaladr]] yn y [[7g]]. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun roedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn.
 
== Cynnwys ==
Mae'r ''Historia'' yn cychwyn gyda disgrifiad blodeuog, haeddianol enwog, o Brydain fel "Yr Ynys Wen", ynys ffrwythlon ond anghyfanedd ar y dechrau "yn yr eigion gorllewinol rhwng Ffrainc ac Iwerddon", ac yn rhoi crynhoad o'i hanes a'i chyflwr cyfoes.
 
Yn yr adran gyntaf cawn hanes yr arwr [[Aeneas|Aeneas Ysgwydwyn]] o [[CaerdroiaCaerdroea|GaerdroiaGaerdroea]], y ceir ei hanes gan [[Fyrsil]] yn yr ''[[Aenid]]'', yn ymsefydlu yn yr Eidal ar ôl [[Rhyfel CaerdroiaCaerdroea]]. Caiff ei ddisgynydd [[Brutus]] ei alltudio o GaerdroiaGaerdroea. Aiff ef a'i ddilynwyr i grwydro y [[Môr Canoldir]] ac, ar ôl cael gweledigaeth gan y dduwies [[Diana (mytholeg)|Diana]], mae'n hwylio i'r "Ynys Wen" sy'n cael ei henwi'n Brydain ar ei ôl (Prydain="gwlad Brutus" yn ôl Sieffre). Rhennir yr ynys yn dair teyrnas ar farwolaeth Brutus: caiff ei fab hynaf [[Locrinus]] deyrnas [[Lloegr]], mae [[Albanactus]] yn cael [[Yr Alban]] a [[Camber]] yn cael [[Cymru]] ([[Cambria]]).
 
Mae'r ail adran yn rhestr ddigon ddiflas, foel, ac anysbrydoledig ar y cyfan o frenhinoedd ffug y Brydain Geltaidd, ond mae'n cynnwys rhai hanesion difyr, wedi eu codi o draddodiad brodorol yn ôl pob tebyg, e.e. am y brenin [[Llŷr]] yn rhannu ei deyrnas rhwng ei tair merch (hanes a ddefnyddwyd gan [[William Shakespeare|Shakespeare]] yn ei ddrama ''[[King Lear]]''), a [[Dyfnwal Moelmud]] a'i feibion [[Beli]]nus a [[Brennus|Brennius]], sy'n ymladd rhyfel cartref cyn mynd yn eu blaen i ymosod ar ddinas [[Rhufain]] (seiliedig ar hanes [[Brennus]] yn cipio Rhufain yn 390 CC).
Llinell 21:
Llyfr cyntaf Sieffre oedd y ''Prophetiae Merlini'' ("Proffwydoliaethau Myrddin"), a ysgrifennodd cyn 1135. Cyflwynodd Sieffre hwn fel cyfres o weithiau gan y dewin [[Myrddin]] ei hun. Hwn oedd y tro cyntaf i rywbeth am Fyrddin gael ei gyhoeddi mewn iaith heblaw [[Cymraeg]], a chafodd dderbyniad brwd. Tua blwyddyn neu ddwy ar ôl hynny cyhoeddwyd yr ''Historia Regum Britanniae'', ond mae'n debyg fod Sieffre wedi bod yn ei ysgrifennu am rai blynyddoedd cyn hynny.
 
Mae'r llyfr yn adrodd hanes honedig [[Ynys Prydain]] o ddyfodiad [[Brutus|Brutus o GaerdroiaGaerdroea]], disgynnydd [[Aeneas]], hyd farwolaeth y brenin [[Cadwaladr]] yn y [[7g]]. Bu dylawnwad y llyfr yma yn enfawr, yn enwedig ei hanesion am y Brenin Arthur. Yn ôl Sieffre ei hun roedd wedi cyfieithu'r hanes o hen lyfr Cymraeg, ond ni chredir fod sail i hyn. Mae'n debyg mai prif ffynonellau Sieffre oedd gweithiau [[Gildas]] (''De Excidio Britanniae''), [[Beda]] a [[Nennius]], ond gyda llawer o'r cynnwys yn ffrwyth dychymyg Sieffre ei hun.
 
Bu dylanwad gwaith Sieffre yn enfawr trwy orllewin Ewrop. Ymddengys mai fel dilyniant i'r ''Historia Regum Britanniae'' y bwriadwyd [[Brut y Tywysogion]]. Sieffre yn anad neb fu'n gyfrifol am greu y ddelwedd o'r Brenin Arthur fel brenin ar batrwm y [[Canol Oesoedd]] gyda phrifddinas yng [[Caerllion|Nghaerllion-ar-Wysg]] ac wedi ei amgylchu gan farchogion oedd yn batrwm o [[sifalri]]. Yng Nghymru bu ei ddylanwad yn arbennig o drwm a pharhaodd am ganrifoedd lawer, fel y gwelir yng nghyfrol [[Theophilus Evans]] ''Drych y Prif Oesoedd''.