Twrci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Caerdroia -> Caerdroea
Llinell 92:
Mae gan Dwrci hanes hir a chyfoethog iawn. Mae'r wlad a elwir Twrci heddiw wedi gweld sawl cenedl ac ymerodraeth yn ei meddiannu neu yn ei phreswylio.
 
Yn y mileniau cyn [[Crist]] bu'n gartref i ymerodraeth yr [[Hitiaid]]. Ceir tystiolaeth bod rhai o lwythi'r [[Celtiaid]] wedi treulio amser yn [[Asia Leiaf]] hefyd. Yna daeth y [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] i wladychu ardaloedd eang ar arfordiroedd y [[Môr Canoldir]], [[Môr Aegea]] a'r [[Môr Du]]. O blith y dinasoedd enwog a sefydlwyd ganddynt gellid enwi [[Caergystennin]], [[CaerdroiaCaerdroea]], [[Effesus]], [[Pergamon]] a [[Halicarnassus]].
 
Rheolwyd y wlad gan [[yr Ymerodraeth Bersiaidd]] am gyfnod yn ystod y rhyfela a gwrthdaro rhwng [[Iran|Persia]] a gwladwriaethau annibynnol [[Gwlad Groeg]], dan arweinyddiaeth [[Athen]]. Gwelwyd [[Alecsander Mawr]] yn teithio trwyddi ar ei ffordd i orchfygu [[Babilon]], [[Tyrus]], y [[Lefant]] ac [[Asia]]. O'r 2g CC ymlaen daeth yn raddol i feddiant y [[Rhufeiniaid]] a chreuwyd talaith [[Asia (talaith Rufeinig)|Asia]] ganddynt ac ychwanegwyd at gyfoeth ac ysblander yr hen ddinasoedd Groegaidd.