Mongoleg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Iaith a siaredir ym [[Mongolia]] a rhanbarthau cyfagos o [[Tsieina]] a [[Rwsia]] yw '''Mongoleg'''. Hi yw aelod mwyaf adnabyddus y grŵp ieithyddol o [[ieithoedd Mongolaidd]], a chredir ei bod yn perthyn i [[Teulu ieithyddol|deulu ieithyddol]] yr [[ieithoedd Altaig]]. Ceir tua 5.7 miliwn o siaradwyr i gyd, yn cynnwys tua 90% o drigolion Mongolia, a niferoedd sylweddol ym [[Mongolia Fewnol]].
 
Mae'r iaith wedi defnyddio nifer o wyddorau dros y canrifoedd. Crewyd [[yr Wyddor Fongolaidd]] yn y [[12fed ganrif]], a defnyddiwyd hi hyd [[1943]], pan ddechreuwyd defnyddio'r wyddor Sirilig yn ei lle. Erbyn hyn, ail-ddechreuwyd dysgu'r wyddor Fongolaidd yn yr ysglion. Parhawyd i ddefnyddio'r wyddor draddodiadol ym [[Mongolia Fewnol]], sy'n rhan o Weriniaeth Pobl Tsieina.