Nodyn:Pigion/Wythnos 36: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cywiro cyswllt
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
<noinclude>{{pigion-pen}}</noinclude>[[Delwedd:Bombers of WW1.ogg|thumbtime=3|de|180px]]
Dechreuodd y '''[[Rhyfel Byd Cyntaf]]''' yn [[1914]] a daeth i ben yn [[1918]]. Dyma'r tro cyntaf y defnyddwyd [[arfau cemegol]] a'r tro cyntaf y gollyngwyd bomiau o awyrennau a chafwyd yr engraifft gyntaf o [[hil-laddiad]] yn ystod y ganrif hon. Nid oedd cymaint o filwyr erioed o'r blaen wedi cael eu defnyddio mewn gwrthdarro neu ryfel, ac anafwyd mwy o filwyr nag erioed o'r blaen.
Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn gyfnod o newidiau mawr, gan roi terfyn ar yr hen drefn a pharatoi'r ffordd i'r drefn newydd. Dyma gyfnod cwymp teuluoedd fel yr [[Habsburg]], y Romanov, a'r Hohenzollern a oedd wedi bod mor ddylanwadol yng ngwleidyddiaeth Ewrop gyda'u gwreiddiau yn mynd yn ôl i ddyddiau y [[Y Croesgadau|croesgadau]].
Llinell 5:
Oherwydd y rhyfel hon daeth cyfnod absoliwtiaeth Ewrop i ben a chafwyd [[Chwyldro Rwsia]]. Cwymp [[yr Almaen]] (heb ddatrys problemau'r wlad) oedd achos [[Natsïaeth]] a dechrau yr [[Ail Rhyfel Byd]] ym [[1939]].
Dyma'r rhyfel modern cyntaf i ddibynnu ar [[technoleg|dechnoleg]] arfau a lledaenu dychryn rhwng pobl cyffredin nad oeddent yn filwyr.
Lladdwyd mwy na 9 miliwn o filwyr yn ystod y brwydrau a bron cynnifer o bobl cyffredin o achos newyn, hil-laddiad a bomiau. Lladdwyd 40,000 o Gymry a oedd yn y lluoedd arfog.<noinclude>{{pigion-troed}}
[[Categori:Nodiadau pigion|36]]</noinclude>