Marion Eames: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Ar gyfer plant: yn ol fy llyf
BDim crynodeb golygu
Llinell 39:
[[Delwedd:Y Stafell Ddirgel.jpg|bawd|150px|chwith|Clawr [[Y Stafell Ddirgel]]]]
 
Parhai Marion Eames i ysgrifennu, gan gynnwys bod yn rhan o griw ysgrifennwyr cynnar Pobl''[[Pobol y Cwm]]''. Cafodd afael ar ddeunydd crai ei nofel gyntaf, ''[[Y Stafell Ddirgel]]'', yn yr erthygl '[[Crynwriaeth yng Nghymru|Crynwyr Cymreig]] Ardaloedd Dolgellau' a ymddangosodd mewn cyfrol o'r [[Y Geninen|Geninen]] yn 1889. Roedd darllen yr erthygl eisoes wedi ei hysgogi i ysgrifennu stori fer ar gyfer cystadleuaeth yn ''[[Y Cymro]]'', a hynny cyn iddi fynd i Lundain. Cyhoeddwyd ''Y Stafell Ddirgel'' ym 1969, a'i derbyn yn frwdfrydig gan y beirniaid llenyddol. Cyhoeddodd 6 nofel i oedolion i gyd ynghyd â nofelau ar gyfer plant a rhai gweithiau eraill.
 
Canmolir ei gwaith gan feirniaid llenyddol am ei dawn adrodd stori ac ysgrifennu [[deialog]], a'u gallu i greu naws sawl cyfnod hanes penodol mewn mannau penodol, rhai megis Dolgellau a Phenbedw yn gyfarwydd iddi. Seilir ei gwaith ar ymchwil hanesyddol trylwyr.<ref>''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru'', gol. Meic Stephens (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986).</ref> Addaswyd ''Y Stafell Ddirgel'' a'r ''Rhandir Mwyn'' ar gyfer y teledu gan y BBC, yn fuan ar ôl eu cyhoeddi, ar adeg pan oedd safon [[drama deledu|dramau teledu]] Cymraeg yn codi'n gyflym iawn. Gwnaeth y ddwy gyfres argraff ar wylwyr teledu nad oeddynt wedi darllen y nofelau. Ymddengys y thema alltudedd yn ei nofelau dro ar ôl tro.