Llwynog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 27:
Mae'r llwynog yn ddiarhebol o gyfrwys a gellir defnyddio ''cadno'' neu ''llwynog'' i ddisgrifio rhywun cyfrwys neu dwyllodrus. Defnyddir ''cadno o ddiwrnod'' hefyd i ddisgrifio diwrnod "twyllodrus", pan fo'r tywydd yn braf yn y bore ond yn troi'n annifyr yn ystod y dydd.
 
Bu'r llwynog yn rhan bwysig o draddodiadau a llên gwerin Cymru ar hyd y canrifoedd, fel y [[blaidd]]. Yn fwy diweddar mae soned fyw [[R. Williams Parry]], ''[[Y Llwynog]]'', yn un o hoff gerddi Cymraeg pobl Cymru.<ref>http://www.na-nog.com/site/product.aspx?productuid=214217</ref> Llwynog enwocaf y [[Cymraeg|Gymraeg]], fodd bynnag, yw [[Siôn Blewyn Coch]], a ymddangosodd gyntaf yn ''[[Llyfr Mawr y Plant]]'' ddechrau'r [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]] ac a fu wedyn yn brif gymeriad yn un o [[ffilm]]iau cynharaf [[S4C]], [[Siôn Blewyn Coch (ffilm)|Siôn Blewyn Coch]] a grëwyd ar gyfer Nadolig [[1986]], ac a ailddarlledwyd droeon ers hynny.
 
== Cyfeiriadau ==