Eglwys-bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
cat
Llinell 1:
[[Delwedd:Eglwysbach_church.jpg|250px|bawd|Eglwys Eglwysbach]]
Pentref, cymuned a [[plwyf|phlwyf]] eglwysig ym mwrdeistref sirol [[Conwy (sir)|Conwy]], gogledd [[Cymru]], yw Eglwysbach. Mae'n gorwedd ar lôn wledig mewn dyffryn bychan yn y bryniau sy'n ymestyn i'r dwyrain fel cainc o [[Dyffryn Conwy|Ddyffryn Conwy]], sef Dyffryn Hiraethlyn. Mae tua 3 milltir i'r de o bentref [[Llansanffraid Glan Conwy]] ([[Glan Conwy]]), rhwng cymunedau bychain [[Graig]] a [[Pentre'r Felin]]. Mae'r plwyf yn gorwedd rhwng plwyfi Llansanffraid a [[Maenan]].
 
Mae'r pentref yn adnabyddus am Sioe Eglwysbach, sioe amaethyddol a gynhelir yno ym mis Awst bob blwyddyn, ac sy'n cynnwys arddangosfeydd gwartheg, defaid a cheffylau, arddangosfeydd blodau, reidiau ffair a stondinau amrywiol.
Llinell 8:
Tua milltir i'r gogledd o'r pentref ceir [[Gerddi Bodnant]], sy'n eiddo i'r [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]].
 
==Enwogion==
Ganed [[John Evans, Eglwysbach|John Evans]], un o [[pregeth|bregethwyr]] enwocaf Cymru yn y [[19eg ganrif]], yn Eglwysbach. Cyfeiria pobl ato fel "John Evans, Eglwysbach", ar hyd ei oes.
 
==Ffynonellau==
*E. D. Rowlands, ''Dyffryn Conwy a'r Creuddyn'' (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1947)
 
 
{{Trefi Conwy}}
 
[[Categori:Cymunedau Conwy]]
[[Categori:Pentrefi Conwy]]
[[Categori:Dyffryn Conwy]]