Prestatyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D'ohBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: uk:Престатін
Llinell 13:
Ceir olion "ffatri" bwyeill carreg o [[Oes Newydd y Cerrig]] ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd, i'r dwyrain o gopa'r [[Penmaen-mawr]]. Ceir tystiolaeth fod bwyeill gwenithfaen o'r Graiglwyd yn cael eu allforio ar raddfa eang 5,000 o flynyddoedd yn ôl; mae enghreifftiau wedi'u darganfod mor bell i ffwrdd ag arfordir de Lloegr. Credir eu bod yn cael eu cludo i safle ger Prestatyn i gael eu gweithio cyn eu hallforio.
Bu'r [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeiniaid]] yn weithgar yn ardal Prestatyn. Roedd ganddynt wersyll yno ar gyfer mwyncloddio am [[plwm|blwm]]. Gellir gweld rhai gwrthrychau o'r cyfnod Rhufeinig yn y llyfrgell leol. Roedd [[Clawdd Offa]] yn cychwyn ger safle Prestatyn, ond er bod [[Llwybr Clawdd Offa]] yn cychywn/gorffen yno nid oes llawer o'r clawdd ei hun i'w weld.

Bu'r llecyn ym meddiant [[Mercia]] am gyfnod yn yr [[Oesoedd Canol Cynnar]], ac mae'r enw Prestatyn ("Tref yr Offeiriad") yn dyddio o'r dyddiau hynny. Yn yr Oesoedd Canol rhoddodd ei enw i gwmwd [[Prestatyn (cwmwd)|Prestatyn]], rhan o gantref [[Tegeingl]]. Codwyd [[Castell Prestatyn]] gan un o arglwyddi Normanaidd [[y Mers]] yn y 12fed ganrif ond cafodd ei gipio a'i ddinistrio gan [[Owain Gwynedd]].
 
Ond arosodd Prestatyn yn bentref bychan dinod tan ganol y [[19eg ganrif]] a datblygiad [[twristiaeth]] yn y rhan yma o ogledd Cymru gyda dyfodiad y rheilffordd.