Prestatyn (cwmwd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
[[Diserth]] oedd canolfan y cwmwd. Roedd o bwys strategol am ei fod yn gorwedd ar y llwybr arfordirol i gyfeiriad Gwynedd o gyfeiriad Lloegr.
 
Yn yr Oesoedd Canol Cynnar, bu'r rhan yma o'r wlad ym meddiant [[Mercia]] am gyfnod, fel y tyst amryw o'r enwau lleoedd o darddiad Saesneg o hyd, yn cynnwys yr enw [[Prestatyn]] ei hun. Fe'i adenillwyd gan y [[Cymry]] dan [[Owain Gwynedd]] a daeth yn rhan o gantref Tegeingl. Codwyd [[Castell Prestatyn]] gan un o arglwyddi Normanaidd [[y Mers]] yn y 12fed ganrif ond cafodd ei gipio a'i ddinistrio gan Owain Gwynedd.

Am lawer o'r amser bu ym meddiant brenhinoedd a thywysogion [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], ond yn y 1280au fe'i meddianwyd gan goron Lloegr a daeth yn rhan o'r [[Sir y Fflint]] newydd. Heddiw mae rhan orllewinol yr hen gwmwd yn gorwedd yn [[Sir Ddinbych]] a'r rhan arall yn Sir y Fflint.
 
==Gweler hefyd==