Sir Ddinbych: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Cestyll: delwedd |
ehangu fymryn bach eto |
||
Llinell 6:
</table>
[[Delwedd:SirDdinbych.jpg|bawd|200px|Logo y Cyngor]]
[[Sir]] yng ngogledd [[Cymru]] yw '''Sir Ddinbych''' ([[Saesneg]]: ''Denbighshire''). Mae'n ffinio â [[Gwynedd]] a [[Conwy (sir)|Chonwy]] i'r gorllewin, [[Sir y Fflint]] a [[Wrecsam (sir)|Wrecsam]] i'r dwyrain, a [[Powys|Phowys]] i'r de. Mae'r sir bresennol yn llawer llai na'r hen sir (gweler isod) ac yn cynnwys rhan o'r hen Sir y Fflint. Lleolir pencadlys y cyngor sir yn nhref [[Dinbych]].
==Hanes==
Goresgynwyd y Deceangli gan y [[Rhufeiniaid]] yn 48 OC ac am bedair canrif bron rheolwyd yr ardal gan Rufain. Ond parhaodd y gyfundrefn frodorol i raddau hefyd, ac yn y cyfnod ôl-Rufeinig daw teyrnas [[Rhos]], a oroesoedd fel [[cantref]] canoloesol, i'r amlwg. Dyma '[[Oes y Seintiau]]'. Yr enwocaf o seintiau'r ardal yw [[Cyndeyrn]], a gysylltir â [[Llanelwy]] ond sydd hefyd yn nawddsant [[Glasgow]] yn yr Alban.
Yn yr [[Oesoedd Canol]] roedd yr ardal yn rhan o'r [[Berfeddwlad]]. Bu dan reolaeth [[teyrnas Gwynedd]], fel rhan o [[Gwynedd Is Conwy|Wynedd Is Conwy]], am gyfnodau hir yn yr Oesoedd Canol. Dyma'r cyfnod pan godwyd adeiladau eglwysig fel [[Abaty Glyn y Groes]] a chofebion fel [[Piler Eliseg]]. Codwyd sawl castell gan y Cymry hefyd, e.e. [[Tomen y Rhodwydd]]. Yn dilyn goresgyniad [[Tywysogaeth Cymru]] gan y Saeson yn 1282-1283, rhanwyd yr ardal rhwng arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]]; y mwyaf o'r arglwyddiaethau hyn oedd [[Arglwyddiaeth Dinbych]].
Cafodd yr hen Sir Ddinbych [[Siroedd Cymru cyn ad-drefnu 1974|ei chreu]] yn [[1536]]. Parhaodd fel sir weinyddol hyd adrefnu llywodraeth leol yn 1972. Roedd yn ffinio â [[Sir Gaernarfon]] a [[Sir Feirionnydd]] i'r gorllewin, [[Sir Drefaldwyn]] i'r de, a [[Sir y Fflint]], a [[Sir Gaer]] a [[Sir Amwythig]] (y ddwy olaf yn [[Lloegr]]) i'r dwyrain. Daeth yn rhan o sir [[Clwyd]].
Llinell 31 ⟶ 35:
[[Bryniau Clwyd]] yw'r gadwyn o fryniau canolig eu huchder yng ngogledd-ddwyrain [[Cymru]] sy'n ymestyn o gyffiniau [[Llandegla-yn-Iâl]] yn y de i gyffiniau [[Prestatyn]] yn y gogledd, gan gyrraedd ei phwynt uchaf gyda [[Moel Famau]].
==Trefi a phentrefi==
Y prif drefi yw:
*[[Dinbych]]
*[[Llanelwy]]
Llinell 39 ⟶ 44:
*[[Y Rhyl]]
==Cymunedau==
|