Bwthyn Llywelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Tŷ hynaf [[Beddgelert]], [[Gwynedd]] yw '''Bwthyn Llywelyn''' neu '''Tŷ Isaf''' fel y'i gelwir heddiw. Mae'n eiddo i'r [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]] ac yn cael ei ddefnyddio ganddynt fel canolfan.
 
Cafodd yr enw 'Bwthyn Llywelyn' am fod traddodiad yn ei gysylltu â [[Llywelyn Fawr]], [[Teyrnas Gwynedd|Tywysog Gwynedd]] a [[Tywysog Cymru|Chymru]] yn hanner cyntaf y 13eg ganrif. Yn ôl y traddodiad lleol, roedd gan y tywysog neuadd ar y safle a ddefnyddiai pan ddeuai i hela yn yr ardal. Ni ellir profi'r hanes, ond roedd brenhinoedd a thywysogion Gwynedd yn arfer mynd [[Cylchdaith llys Tywysogion Gwynedd|"ar gylch" o lys i lys]] yng Ngwynedd gan aros fel rheol mewn adeiladau pwrpasol; byddai hynny'n cynnwys neuaddau syml fel, efallai, 'Bwthyn Llywelyn'. Ond mae'n bosibl hefyd nad yw'r "traddodiad" yn hŷn na chyfnod perchennog tafarn y ''Goat'' a ddyfeisiodd [[chwedl Gelert]] (tua 1800).
 
Dyddia'r adeilad presennol o'r 17eg ganrif pan godwyd ffermdy ar y safle. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd yr adeilad yn [[tafarn|dafarn]] a oedd yn boblogaidd gyda'r twristiaid cynnar a ymwelai ag [[Eryri]]. Cofnodir i ddyn gael ei foddi o fewn y tŷ ei hun yn 1799 pan orlifodd [[Afon Glaslyn]] gan ddinistrio'r bont ar yr afon hefyd. Yn yr 20fed ganrif fe drowyd yn Stafell De.<ref>[http://www.ukattraction.com/north-wales/ty-isaf.htm ukattraction.com]</ref>