William Owen Pughe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Gramadeg]]ydd, [[geiriadur]]wr a [[golygydd]] [[Cymry|Cymreig]] oedd y Dr '''William Owen Pughe''' ([[7 Awst]], [[1759]] -– [[3 Mehefin]], [[1835]]). Ei [[enw barddol]] oedd 'Idrison' (defnyddiai 'Gwilym o Feirion' weithiau yn ogystal). Roedd yn aelod gweithgar o gymdeithasau llenyddol Llundain. Fel gramadegydd a geiriadurwr datblygodd ddamcaniaethau ieithyddol rhyfedd ac orgraff newydd i'r iaith [[Gymraeg]].
 
==Ei oesBywgraffiad==
Ganed Owen Pughe yn Nhy'n-y-bryn ym mhlwyf [[Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn)|Llanfihangel y Pennant]], [[Sir Feirionnydd]]. Symudodd ei deulu i fyw i dyddyn yn [[Ardudwy]] pan fu tua saith oed. Symudodd y dyn ifanc i fyw yn [[Llundain]] yn [[1776]] lle daeth i adnabod [[Owain Myfyr]]. Ymunodd â Chymdeithas y [[Gwyneddigion]] yn [[1782]] a daeth yn ddylanwad mawr ym mywyd llenyddol [[Cymry Llundain]]. Yn ystod y blynyddoedd hyn ennillai ei fywoliaeth yn gyntaf fel clerc mewn swyddfa cyfreithiwr ac yna fel ysgolfeistr a thiwtor preifat i blant cyfoethogion yn Llundain. Yn [[1790]] priododd Sarah Elizabeth Harper a chafodd fab ([[Aneurin Owen]]) a dwy ferch ganddi. Ei enw bedydd oedd William Owen, ond mabywsiadodd y cyfenw ychwanegol Pughe ar ôl etifeddu tir ger [[Nantglyn]] yn [[Sir Ddinbych]] yn [[1806]] gan berthynas pell o'r enw Rice Pughe. Yn dilyn hyn yr oedd ganddo incwm preifat a'i galluogodd i roddi ei holl amser i weithgarwch llenyddol ac ysgolheigaidd. Fodd bynnag parhaodd i fyw yn Llundain hyd 1825 (er i'w wraig farw yn 1815) pryd y dychwelodd i Gymru. Aeth ei iechyd yn fregus a bu farw mewn bwthyn yn perthyn i gyfaill, ger [[Llyn Talyllyn]], y 3ydd o Fehefin, 1835.
 
Llinell 23:
*''Cadwedigaeth yr Iaith Gymraeg'' (1808)
*''Coll Gwynfa'' (1819). Cyfieithiad o ''Paradise Lost''.
 
===Bywgraffiad===
===Bywgraffiadau===
*[[Glenda Carr]], ''William Owen Pughe'' ([[Gwasg Prifysgol Cymru]], 1983). Bywgraffiad safonol a thrylwyr.
 
==DolenDolenni allanol==
* [http://wbo.llgc.org.uk/en/s-PUGH-OWE-1759.html Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein]
 
 
{{DEFAULTSORT:Owen Pughe, William}}
Llinell 35:
[[Categori:Geiriadurwyr Cymraeg]]
[[Categori:Gramadegwyr Cymraeg]]
[[Categori:Golygyddion Cymreig]]
[[Categori:Llenorion Cymreig]]
[[Categori:Hynafiaethwyr Cymreig]]
[[Categori:Llenorion Cymraeg]]