Big Leaves: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Cywiro dolen |
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Band poblogaidd o [[Waunfawr (Gwynedd)|Waunfawr]], [[Caernarfon]] oedd '''Big Leaves''' ('''Beganifs''' yn wreiddiol) cyn iddynt roi'r ffidl yn y to ym [[2005]] wedi rhyddhau'r albwm ''Alien & Familiar''. ''Alien & Familiar'' oedd un campwaith ymysg nifer o senglau ag albymau penigamp a gyhoeddwyd gan y band. Yn y blynyddoedd cynnar roedd potensial y band dwyieithog yn amlwg, a honnwyd i Liam Gallagher o'r band byd-enwog ''[[Oasis]]'' ddewis '‘Fine'’ fel sengl y flwyddyn yn 2000. Aelodau'r grŵp oedd Rhodri Sion (lleisiau), Meilir Gwynedd (gitâr, lleisiau), Kevin Tame (bas, lleisiau), Osian Gwynedd (allweddellau, lleisiau) a Matt Hobbs (drymiau).
Cyn hynny, roedden nhw wedi rhyddhau'r cyntaf o ddau albwm: ''Pwy Sy’n Galw?''. Albwm uniaith Gymraeg ydoedd, a gynhwysai eu cân enwocaf, ‘'[[Seithenyn (cân)|Seithenyn]]'’. Dros hynny, rhyddhawyd nifer o EPs o safon a thyfodd eu statws fel band ‘byw’ ardderchog.
Gydag ychydig mwy o gyhoeddusrwydd, nid oes amheuaeth y gallai Big Leaves fod wedi ehangu eu henw da a dyfod yn un o’r bandiau mwyaf poblogaidd i’w geni yng Nghymru, gan ddilyn olion traed y [[Super Furry Animals]] a’r [[Manic Street Preachers]].
"Our song
Amlwg oedd eu talent, ac mae cerddoriaeth Gymraeg yn parhau i ddiflasu yn eu habsenoldeb.
|