Euddogwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ehangu fymryn; cat
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ceir buchedd iddo, y ''Vita Beati Oudocei'', yn [[Llyfr Llandaf]], lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o [[Llydaw|Lydaw]], ac Anauued, chwaer sant [[Teilo]]. Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth [[Archesgob Caergaint]] a mynd ar [[Pererindod|bererindod]] i [[Rhufain|Rufain]], ond mae'n anhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd [[Esgobaeth Llandaf|esgobaeth newydd Llandaf]], a sefydlwyd gan y [[Y Normaniaid yng Nghymru|Normaniaid]], i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul [[Esgobaeth Tyddewi]] a'r Eglwys Gymreig. Ei wylmabsant yw [[2 Gorffennaf]].
 
Barn [[G.H. Doble]] oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn [[Llandaf]] yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]] iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys [[Llaneuddogwy]] ([[Llandogo]]) yng [[Gwent|Ngwent]], ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo.
 
==Llyfryddiaeth==