Georgia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gwybodlen WD
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
[[Delwedd:Bediacup.jpg|bawd|250px|dde|Cwpan Bedia o'r Brenin Bagrat III, 999 AD]]
[[Delwedd:Earlycaucasus655.jpg|bawd|300px|chwith|Hen Georgia - Colchis ac Iberia]]
Gelwid Georgia [[Colchis]] ac [[Iberia]] gan y Groegwyr. Roedd y wlad yn frenhiniaeth sefydlog yn y canrifoedd CC. Yma oedd cartref y [[Cnu Aur]] a geisiodd [[Jason]] a'i [[Argonautiaid]].
 
[[Delwedd:Mirian III fresco.JPG|bawd|dde|Brenn Iberia Mirian III sefydlodd Cristnogaeth yn Georgia yn AD 327.]]
Llinell 22:
[[Delwedd:Geor tamro aandersen.png|bawd|300px|dde|Brenhiniaeth Georgia ar ei orau, 1184-1225]]
 
Daeth y wlad dan y Rhufeinwyr fel '"cleient'" am 400 mlynedd. Wedi derbyn cristnogaeth tyfodd yn wlad annibynnol. Ildiodd y wlad i'r Arabiaid yn y 7ed ganrif am gyfnod, Yn AD 813, tywysog Ashot I dechreodd y dynasti Bagrationi a barhaodd am 1,000 mlynedd. Unodd gorllewin a dwyrain Georgia dan Bagrat V (1027-721027–72). Erbyn y 12ed ganrif roedd Georgia yn rheoli dros Armenia, arfordir gogledd Twrci a rhan o Aserbaijan, dyma'r "Oes Aur'" dan y brenin David a'i Wyres y Frenhines Tamar.
 
Cymerwyd Tblisi yn 1226 gan y Brenin Kwarezmid (Persiaid) Mingburnu cyn syrthio i'r Mongoliaid yn 1236 ac ailfeddianwyd y wlad dan Timur yn 1386 a 1404. O'r 16g ymlaen rhannwyd Georgia rhwng Byzantium a Persia. Arhosodd dan Persia tan i'r brenin Heraclius II dod i rym fel brenin annibynnol yn 1762.
 
Ugain mlynedd ar ôl i Heraclius dod yn frenin daeth dylanwad y Rwsiaid yn gryfach, sefyllfa a barodd ddwy ganrif tan 1991 - heblaw cyfnod byrhoedlog 1918-21. O fewn ffiniau y Georgia presennol mae tiroedd a roddodd i Georgia gan y Rwsiaid (ond bod nhw i gyd wedi dod dan Georgia yn y 12ed ganrif hefyd.)
 
== Hanes Diweddar ==
Llinell 40:
Ar 8 Awst, 2008, rholiodd tanciau Rwsia i fewn i Dde Ossetia ac Abkhazia mewn [[Rhyfel De Ossetia (2008)|Rhyfel De Ossetia]] gan ymosod o'r awyr ar fyddin Georgia. Ar 12 Awst cytunodd Arlywydd Rwsia, sef [[Dmitri Medvedev]], ac Arlywydd [[Ffrainc]], sef [[Nicolas Sarkozy]], ar gynllun heddwch chwe phwynt. Cytunodd Arlywydd Georgia gyda'r chwe phwynt:
 
# Dim troi at drais na chymorth treisgar gwledydd eraill.
# Rhoi'r gorau i'r ymladd o'r ddwy ochor.
# Caniatáu cymorth dyngarol.
# Milwyr Georgia i symud yn ôl i'w gwersylloedd arferol.
# Milwyr Rwsia i symud yn ôl i ble roeddent cyn y gwrthdaro.
# Agor trafodaethau rhyngwladol i sicrhau heddwch a diogelwch pobol y ddwy ranbarth.