Sami: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
B gair ar goll
Llinell 11:
[[Pobl Ffinno-Wgrig]] sydd yn byw yn [[y Lapdir]] yng ngogledd [[Ffenosgandia]] yw'r '''Sami''' neu'r '''Lapiaid'''. Ieithoedd brodorol y Sami ydy'r [[ieithoedd Sami]], er bod nifer ohonynt wedi rhoi'r gorau i'w mamiaith ac yn siarad [[Norwyeg]], [[Swedeg]], [[Ffinneg]], neu [[Rwseg]].
 
[[Nomad]]iaid a fu'n trigo yng ngogledd [[Llychlyn]] ers miloedd o flynyddoedd oedd hynafiaid y Sami. Mae union darddiad y Sami yn ansicr: cred rhai ysgolheigion taw un o'r [[pobloedd Baleo-Siberaidd|bobloedd Baleo-Siberaidd]] ydynt, tra bod eraill yn honni iddynt darddu o'r [[hil Alpaidd]] yng [[Canolbarth Ewrop|Nghanolbarth Ewrop]]. Er eu bod yn siarad ieithoedd Ffinno-Wgrig, nid ydynt yn perthyn yn genetig i'r bobloedd Ffinnig eraill nac i'r bobloedd Indo-Ewropeaidd.<ref>{{eicon en}} Iiddá, "[https://www.laits.utexas.edu/sami/dieda/hist/genetic.htm The Origin and Genetic Background of the Sámi]", [[Prifysgol Texas]]. Adalwyd ar 4 Hydref 2018.</ref> Yn sgil dyfodiad y [[Ffiniaid]] i'r [[Ffindir]] yn yr 2g OC, cafodd aneddiadau'r Sami eu gyrru tua'r gogledd. Digwyddai'r un peth yn [[Sweden]] a [[Norwy]], ac erbyn heddiw mae'r Sami wedi eu cyfyngu i [[Cylch yr Arctig|Gylch yr Arctig]] yn bennaf.
 
Am amseroedd maith, cafodd [[carw Llychlyn|ceirw Llychlyn]] eu hela gan y Sami, a'u cadw mewn niferoedd bychain fel [[anifail denu|anifeiliaid denu]]. Ychydig o ganrifoedd yn ôl, dechreuasant cadw gyrroedd o geirw Llychlyn, a daeth fugeilyddiaeth nomadaidd yn brif fywoliaeth y Sami. Buont yn byw mewn pebyll neu gytiau pridd, ac yn mudo ar yr eira gyda'u hanifeiliaid mewn grwpiau o bum neu chwe theulu. Buont hefyd yn [[pysgota]] ac yn hela anifeiliaid eraill am fwyd. Yn yr 20g daeth y ffordd nomadaidd o fyw i ben, ar wahân i ambell fugail sydd yn gyrru ei anifeiliaid ar ben ei hun tra bod ei deulu yn byw mewn tŷ modern. Mae nifer o Sami Norwy yn bysgotwyr ar yr arfodir. Mae eraill yn dibynnu ar [[ffermio]], [[coedwigaeth]], pysgota afonydd, a [[mwyngloddio]], neu'n cymryd swyddi mewn trefi a dinasoedd Llychlyn.