Yr Ymerodraeth Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 13:
Yn [[60 CC]] daeth Cesar i gytundeb a [[Gnaeus Pompeius Magnus]] a [[Marcus Licinius Crassus]] i rannu grym, a phriododd Pompeius ferch Cesar, Julia. Galwyd y cynghrair yma yn y ''triumvirate''. Yn [[54 CC]], lladdwyd Crassus gan y [[Parthia]]id, ac yn raddol dirywiodd y berthynas rhwng Pompeius a Cesar. Yn [[49 CC]], croesodd Cesar a'i fyddin [[Afon Rubicon]], y ffin rhwng ei dalaith ei hun a'r Eidal, gan ddechrau [[rhyfel cartref]] yn Rhufain. Enciliodd Pompeius i [[Brundisium]] cyn croesi i [[Gwlad Groeg|Wlad Roeg]], a'r rhan fwyaf o Senedd Rhufain gydag ef. Croesodd Ceasr a'i fyddin ar ei ôl. Gorchfygwyd Pompeius gan Cesar ym [[Brwydr Pharsalus|Mrwydr Pharsalus]] yn [[48 CC]], a ffodd Pompeius i'r Aifft. Pan gyrhaeddodd yno, llofruddiwyd ef ar orchymyn y brenin [[Ptolemy XIII]]. Gadawodd hyn Cesar yn feistr ar Rufain.
 
Roedd y garfan oedd o blaid Senedd gref yn anfodlon bod gan Iŵl Cesar gymaint o bŵer. Ym mis Mawrth [[44 CC]] llofruddiwyd ef gan gynllwynwyr yn cynnwys ei ffrind [[Marcus Junius Brutus]] a [[Gaius Cassius Longinus]]. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad Cassius a Brutus, a chefnogwyr Cesar dan arweiniad [[Marcus Antonius]] ac Octavianus. Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]], daeth Octavianus yn rheolwr Rhufain. Newidiodd ei enw i [[Augustus]], ac ystyrir ef fel yr [[Ymerawdwr]] (Lladin: ''Imperator'') cyntaf ([[27 CC]]).
 
=== Yr ymerawdwyr cynnar ===
Llinell 27:
Bu blynyddoedd cyntaf teyrnasiad Tiberius yn llwyddiannus; sefydlogwyd y ffin yn [[Germania]] a dangosodd ei hun yn weinyddwr galluog. Fodd bynnag, gwaethygodd y berthynas rhyngddo ef ac aelodau'r Senedd. Yn y flwyddyn [[27]] OC, aeth yr ymerawdwr i fyw i ynys [[Capri]], ar yr arfordir gerllaw [[Napoli]]. Daeth pennaeth [[Gard y Praetoriwm]], [[Lucius Aelius Seianus]], yn ddylanwadol iawn. Ceisiodd Seianus droi Tiberius yn erbyn ei deulu, iddo ef ei hun gael ei enwi fel ei etifedd, ond dienyddiwyd ef yn [[31]]. Gwnaeth brad ei gyfaill Seianus i'r ymerawdwr, oedd eisoes yn ddrwgdybus o'r Senedd, yn fwy drwgdybus byth, a dienyddiwyd nifer o Seneddwyr a gwŷr amlwg eraill yn ei flynyddoedd olaf.
 
Bu farw yn [[Misenum]] yn 77 oed yn [[37]], a dilynwyd ef gan [[Caligula]], mab ei frawd [[Germanicus]].
 
Mwynhaodd Caligula boblogrwydd eithriadol ar ddechrau ei deyrnasiad am ei fod yn ifanc a brwdfrydig, ond yn nes ymlaen dechreuodd ymddwyn yn orthrymol ac afresymol ac fe'i cyhuddid o fod yn wallgof gan ei gyfoeswyr. Cafodd ei lofruddio yn [[41]], a dilynwyd ef gan [[Claudius]].
Llinell 88:
=== Cristioneiddio'r ymerodraeth ===
[[Delwedd:Rome-Capitole-StatueConstantin.jpg|bawd|200px|chwith|Cystennin Fawr]]
Ar farwolaeth Constantius, yn [[Efrog]] ar [[25 Gorffennaf]] [[306]], cyhoeddodd ei lengoedd ei fab [[Cystennin Fawr|Cystennin]] yn "Augustus".
 
Yn ystod y deunaw mlynedd nesaf bu Cystennin yn brwydro, yn gyntaf i ddiogelu ei safle fel cyd-ymerawdwr ac yn nes ymlaen i uno’r ymerodraeth. Ym [[Brwydr Pont Milvius|Mrwydr Pont Milvius]] ([[312]]) enillodd fuddugoliaeth derfynol yn y gorllewin, ac ym [[Brwydr Adrianople|Mrwydr Adrianople]] ( [[323]]) gorchfygodd ymerawdwr y dwyrain, [[Licinius]], a dod yn unig ymerawdwr (''Totius orbis imperator'').
 
Dywedir i Cystennin gael gweledigaeth cyn brwydr Pont Milvius. Gwelodd groes o flaen yr haul, yn darogan ei fuddugoliaeth. Wedi’r frwydr cymerodd arwydd Cristnogol, y ‘’Crismon’’ , fel baner. Credir i’w fam, Helena, oedd o deulu Cristionogol, gael dylanwad mawr arno. Yn 325 bu Cystennin yn gyfrifol am alw [[Cyngor Nicea]] a wnaeth y grefydd Gristionogol yn gyfreithlon yn yr ymerodraeth am y tro cyntaf. Er hynny ni chafodd ei fedyddio yn Gristion ei hun nes oedd ar ei wely angau. Ail-sefydlodd Cystennin ddinas [[Byzantium]] fel [[Caergystennin]] (''Constantini-polis''), [[Istanbul]] heddiw.
 
Ceisiodd yr ymerawdwr [[Julian]], a gyhoeddwyd yn "Augustus" gan ei filwyr yn [[360]], wrthwynebu y symudiad tuag at Gristionogaeth. Ail-agorodd demlau duwiau traddodiadol Rhufain. Ceisiodd wanhau'r Cristionogion mewn gwahanol ffyrdd. Yn [[362]] pasiwyd deddf oedd yn gwahardd Cristionogion rhag dysgu gramadeg a rhethreg, ac alltudiwyd rhai esgobion megis [[Athanasius]].
Llinell 102:
O [[375]] ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: [[Valens]], [[Valentinian II]] a [[Gratianus]]. Pan laddwyd [[Valens]] ym [[Brwydr Adrianople (378)|Mrwydr Adrianople]] yn [[378]], penododd Gratianus [[Theodosius I|Theodosius]] yn ei le fel ''cyd-augustus'' yn y dwyrain. Lladdwyd Gratianus mewn gwrthryfel yn [[383]], a chyhoeddodd [[Macsen Wledig]] (Magnus Maximus) ei hun yn gyd-ymerawdwr yn y gorllewin, gan feddiannu holl daleithiau'r gorllewin heblaw yr [[Eidal]]. Yn [[387]] ymosododd Macsen ar yr Eidal, ond gorchfygodd Theodosius ef a'i ladd. Bu farw Valentinian II yn [[392]], gan adael Theodosius yn unig ymerawdwr. Teyrnasodd Theodosius hyd [[395]]; ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth [[Cristionogaeth|Gristionogaeth]] yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.
 
Dilynwyd Theodosius gan ei ddau fab, [[Flavius Augustus Honorius|Honorius]] yn y gorllewin ac [[Arcadius]] yn y dwyrain, ac ni chafodd y ddau ran eu had-uno eto. Erbyn hyn roedd y [[Fisigothiaid]] dan eu brenin [[Alaric I]] yn bygwth yr ymerodraeth. Yn [[401]] gwnaeth gytundeb ag Arcadius a'i galluogodd i arwain ei fyddin tua'r gorllewin, gan gipio dinasoedd Groegaidd megis [[Corinth]] a [[Sparta]] cyn cyrraedd [[Yr Eidal]]. Yno, gorchfygwyd ef gan y cadfridog Rhufeinig [[Stilicho]] ar [[6 Ebrill]] [[402]] ym Mrwydr Pollentia. Wedi i Honorius lofruddio Stilicho yn [[408]], gallodd Alaric a'i fyddin ymosod ar yr Eidal eto a gosod gwarchae ar ddinas [[Rhufain]]. Ym mis Awst [[410]] cipiodd y ddinas a'i hanrheithio, gan ddwyn chwaer yr ymerawdwr, [[Gala Placidia]], ymaith fel carcharor. Dyma'r tro cyntaf i'r ddinas gael ei chipio gan elyn ers [[390 CC]].
 
Dirywiodd sefyllfa ymerodraeth y gorllewin yn raddol yn ystod y [[5g]]. Yn [[455]], llofruddiwyd dau ymerawdwr, a bu un arall farw mewn terfysg. Yn y cyfnod yma, cadfridogion megis [[Ricimer]] oedd a'r grym mewn gwirionedd, yn hytrach na'r ymerawdwr. Cafodd yr ymerawdwr olaf, [[Romulus Augustus]], ei goroni yn Hydref [[475]], yn llanc ifanc tua 12 oed. Roedd ei dad, [[Flavius Orestes|Orestes]], yn bennaeth y fyddin Rufeinig ([[Magister militum]]), ac ef a osododd Romulus ar yr orsedd wedi iddo ddiorseddu [[Julius Nepos]]. Mae'n debyg mai ei dad oedd yn rheoli yn ei enw. Ddeg mis yn ddiweddarach, diorseddwyd Romulus Augustus gan [[Odoacer]] ar [[4 Medi]], [[476]]. Ni laddwyd Romulus; yn hytrach fe'i gyrrwyd i fyw yn y [[Castellum Lucullanum]] yn [[Campania]].
 
Yn eironig, roedd yr ymerawdwr olaf yn dwyn enw sylfaenydd dinas Rhufain, [[Romulus]], ac enw ymerawdwr cyntaf Rhufain, [[Augustus]]. Parhaodd yr ymerodraeth yn y dwyrain am fil o flynyddoedd eto fel [[yr Ymerodraeth Fysantaidd]].
Llinell 114:
Yn y [[6g]] dechreuodd yr ymerawdwr [[Justinian I]] ymgyrch i adennill y tiriogaethau a gollwyd. Penododd y cadfridog [[Belisarius]] yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y [[Fandaliaid]] yng Ngogledd Affrica rhwng [[533]] a [[534]]. Ym [[Brwydr Ad Decimum|Mrwydr Ad Decimum]] ([[13 Medi]] [[533]]) gerllaw [[Carthago]], gorchfygodd [[Gelimer]], brenin y Fandaliaid. Enillodd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau [[534]].
 
Yn [[535]] gyrrwyd Belisarius ar ymgyrch i geisio adennill tiriogaethau'r Ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin. Glaniodd yn yr [[Eidal]], oedd ym meddiant yr [[Ostrogothiaid]] a chipiodd ddinas [[Rhufain]] yn [[536]], yna symudodd tua'r gogledd i gipio Mediolanum ([[Milano]] heddiw) yna yn [[540]] [[Ravenna]], prifddinas yr Ostrogothiaid. Dywedir i'r Ostrogothiaid gynnig derbyn Belisarius fel Ymerawdwr y Gorllewin; cymerodd yntau arno dderbyn y cynnig a defnyddio'r cyfle i gymryd brenin yr Ostrogothiaid yn garcharor. Yn ddiweddarach galwyd ef o'r Eidal i wynebu ymgyrch Bersaidd yn [[Syria]] [[541]] -[[542]]).
 
Dychwelodd Belisarius i'r Eidal yn [[544]], lle roedd y sefyllfa wedi newid yn fawr, a'r Ostrogothiaid dan eu brenin newydd [[Totila]] wedi adfeddiannu gogledd yr Eidal, yn cynnwys Rhufain. Llwyddodd Belisarius i ail-gipio Rhufain am gyfnod, ond roedd yr ymerawdwr yn amau ei deyrngarwch, a galwyd ef yn ôl o'r Eidal, gyda [[Narses]] yn cymryd ei le. Llwyddwyd i gadw gafael ar rai o'r tiriogaethau a adenillwyd am ganrif a mwy.