Lang Lewys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) B fformatio cyfeiriadau |
||
Llinell 1:
Bardd Cymraeg o [[Morgannwg|Forgannwg]] oedd '''Lang Lewys''' (bl. tua 1480
Yn ôl tystiolaeth Iorwerth Fynglwyd, a gai gryn hwyl am ei ben wrth ei ddychanu, roedd gan Lang wraig o'r enw Lliwelydd. Roedd ganddo enw am fod yn glerwr llawen ac er bod Iorwerth, fel bardd proffesiynol trwyddedig, yn ei ddychanu mae'n amlwg ei fod yn adnabyddus i feirdd proffesiynol eraill Morgannwg ac yn well fardd na'r rhelyw o'i ddosbarth.<ref>G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 59.</ref>
[[Cywydd]]au ymryson yw'r unig rai o gerddi Lang sydd ar gael heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â chael nawdd ym mhlasdy Syr Wiliam Mathau yn [[Radur]] ac yn nhŷ Siôn ab Ieuan, trysorwr [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]], swydd a sefydliad gyda thraddodiad hir o noddi'r beirdd. Ar sail hyn gellir derbyn mai gŵr o gyffiniau [[Caerdydd]] oedd Lang. Dywedir ei fod yn [[clera]] ar hyd y 'pyrtwai', sef y ffordd fawr a redai ar draws Morgannwg.<ref name="Williams_t60">G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 60.</ref>
Ymddengys i Lang ennill enw iddo'i hun fel ymrysonwr a dychanwr y tu allan i Forgannwg ac mae'n bosibl ei fod wedi crwydro mor bell â'r Gogledd hefyd. Dyma enghraifft o'i ddawn ddychanol, wrth iddo ddisgrifio clerwr eglwysig tew, anwybodus o'r enw 'Syr' Gruffudd Fychan, un o'r rhai a grwydrai'r priffyrdd i ganu cerddi moesol a phregethu:
Llinell 14:
:A phrydydd anffeiriadaidd;
:Difelys mae'n dyfalu
:Gan dant, a difoliant fu.<ref
Ni wyddys pryd y bu Lang farw, ond ni cheir tystiolaeth amdano y gellir ei dyddio i'r cyfnod ar ôl tua 1520.
|