Bara: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Manion using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
Gwneir '''bara''', sy'n [[bwyd|fwyd]] poblogaidd iawn, o [[toes|does]] wedi'i bobi. Mae toes yn cynnwys [[blawd]] a [[dŵr]], ac yn aml [[halen]], a [[burum]] i godi'r bara. Mae llawer o wahanol fathau o fara o lawer o wledydd gwahanol. Bwyteir bara ers cychwyn [[amaethyddiaeth]], filoedd o flynyddoedd yn ôl.
 
Gelwir y math arferol yn '"dorth'" - telpyn cymharol fawr - a cheir torthenni wedi'u gwneud o flawd mâl ac o flawd cyflawn. Ceir mathau llai hefyd, fel rholiau fel y ''[[Brioche]]'' a gall eu gwead (''texture''), eu blas, eu maint a'u cynnwys amrywio'n fawr. Ceir mathau hir hefyd, fel y ''Baguette'' o [[Ffrainc]], sydd tua 65 centimetr (26 mod) o hyd. Cymysgir y blawd a'r dŵr yn does; defnyddir [[burum]] neu bowdr codi fel arfer i godi'r toes, er bod rhai mathau'n ddi-furum (bara croyw). Defnyddir bara croyw mewn seremoniau crefyddol fel y [[Cymun]] [[Cristnogol]] a cheir nifer o ymadroddion am fara yn y Beibl: '"Nid ar fara'n unig y bydd byw dyn'", neu '"wrth chwys dy wyneb y bwytei dy fara'". Mae nifer o dechnegau modern o wella'r bara ar gyfer ei werthu gan gynnwys ei roi dan bwysau eithriadol i greu'r swigod neu ychwanegu [[cemegolyn|cemegolion]] i wella'r blas, ei wead, ei liw neu ei brisyrfio. Ychwanegir [[ffrwyth]]au, [[cnau]] a [[saim]] ar adegau e.e. [[bara brith]].
 
Defnyddir briwsion bara i wneud stwffin a gellir pobi tafellau o fara i wneud [[pwdin bara]]. Y dull amlaf o'i wyta yn y Gorllewin yw ar ffurf brechdanau, sef tafelli o fara, gydag jam, menyn, gaws neu enllyn arall rhwng y ddau damed o fara. O grasu'r bara, ceir [[tost]]. Sonir am grasu bara yn [[Llyn y Fan Fach|chwedl Llyn y Fan Fach]]: "''"Cras dy fara, nid hawdd fy nala"''".
 
Yn ffigyrol, caiff y gair ei ddefnyddio am fwyd, pryd o fwyd, cynhaliaeth, ffon cynhaliaeth neu fywoliaeth person.
 
==Geirdarddiad==
Daw'r gair '"bara'" o'r [[Brythoneg|Frythoneg]] '"baragi'" a'r [[Celteg|Gelteg]] '"baregi'", ac fe'i ceir yn yr [[Cernyweg|Hen Gernyweg]] a'r [[Llydaweg]] 'bara', [[Gwyddeleg|Hen Wyddeleg]]: '"bairgen'". '"Bara'" hefyd yw'r gair lluosog.<ref>[http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html geiriadur.ac.uk;] [[Geiriadur Prifysgol Cymru]] (GPC) adalwyd 6 Mawrth 2016</ref>
 
Mae'r cofnod [[Cymraeg]] cynharaf i'w gael yn:
*[[13g]]: ''Llyfr Iorwerth'' 64: '"Sef mal e rennyr e punt honno: chue ugeynt e’r bara a thry ugeynt e'r llyn".' acAc eto: '"chue thorth arrugeynt o'r bara goreu".'
*[[14g]]: ''Llyfr Iorwerth'' 69: '"deudec torth o vara bychein (tenuibus panibus), a dwy torth o vara mawr peilleit'".
*[[1346]]: ''Llyfr Iorwerth'' 22: '"Paham y gwnneir y gorff ef or bara. Ae waet or gwin".'
 
Mae'r gair '"torth'", ar y llaw arall, yn fenthyciad o'r [[Lladin]], '"torta'", ac fe'i ceir mewn Cernyweg Canol 'torth' ac mewn Llydaweg Canol '"torz'" a Gwyddeleg Canol '"tort'".
 
==Gweler hefyd==