Y Ddraenen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Thaf (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ardal yng Nghaerdydd ydy '''Draenen Pen-y-Graig''' (Saesneg: ''Thornhill''), sy'n gorwedd ar gyrion gogleddol y ddinas ar y ffordd i [[Caerff...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 20:20, 28 Ionawr 2010
Ardal yng Nghaerdydd ydy Draenen Pen-y-Graig (Saesneg: Thornhill), sy'n gorwedd ar gyrion gogleddol y ddinas ar y ffordd i Gaerffili.
Tai sydd yn yr ardal yn bennaf, a'r rhanfwyaf yn dyddio o'r 1980au neu'n ddiweddarach, mae hefyd sawl tafarn ac archfarchnad Sainsbury's.
Mae ychydig iawn o safleoedd hanesyddol wedi eu cuddio yn Nraenen Pen-y-Graig, yn nodweddiadol mae gweddillion castell ar y ffin rhwng Caerffili a Draenen Pen-y-Graig, sef Castell Morgraig.
Lleolir Draenen Pen-y-Graig yn ward Llanisien Cyngor Dinas Caerdydd.
Addysg
Dim ond Ysgol Gynradd Draenen Pen-y-Graig sydd wedi ei leoli yn yr ardal ei hun. Darparir addysg gynradd Cymraeg gan Ysgol Y Wern yn Llanisien.
Bydd plant o'r ardal ynteu yn mynychu ysgol cyfrwng Saesneg, Ysgol Uwchradd Llanisien, neu Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yn Ystum Taf.