RAF y Fali: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda ' Gorsaf a maes awyr yn perthyn i'r Llu Awyr Brenhinol yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw '''RAF y Fali''' neu '''Llu Awyr Brenhinol y Fali''' ([[Saes...'
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
 
 
Gorsaf a maes awyr yn perthyn i'r [[Llu Awyr Brenhinol]] yng ngogledd-orllewin [[Ynys Môn]] yw '''RAF y Fali''' neu '''Llu Awyr Brenhinol y Fali''' ([[Saesneg]]: ''RAF Valley''). Cymer ei enw o [[Y Fali]] gerllaw.
 
Adeiladwyd RAF y Fali yn [[1941]], ac yn ystod y gwaith adeiladu, cafwyd hyd i gasgliad pwysig o arfau a chelfi o [[Oes yr Haearn]] yn [[llyn Cerrig Bach]] gerllaw. Prif swyddogaeth yr orsaf yw hyfforddi awyrennwyr i ddefnyddio awyrennau jet cyflym, gan ddefnyddio jetiau [[BAE Hawk]]. Mae hefyd adran o [[hofrennydd]]ion [[Sea King]], sy'n cael eu defnyddio i roi gwasanaeth achub o longau ym [[Môr Iwerddon]] ac o fynyddoedd [[Eryri]].
 
Mae maes awyr sifil [[Maes Awyr Môn]] gerllaw yn dal i berthyn i'r [[Llu Awyr Brenhinol|RAF]] ac mae RAF y Fali yn gyfrifol am reoli traffig awyr yno o hyd.