Dic Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 20:
Daeth Dic Jones yn adnabyddus y tro cyntaf pan enillodd gadair [[Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd|Eisteddfod yr Urdd]] bum gwaith yn olynol yn ystod yr [[1950au]]. Yn wahanol i nifer sy'n ennill cadair Eisteddfod yr Urdd, ni ddiflannodd Jones o'r golwg; yn hytrach cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf, "Agor Grwn" ym [[1960]].<ref name="IndieObit" />
 
Enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol]] yn [[1966]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberafan 1966|Aberafan]] gyda'i awdl '' Cynhaeaf''.
 
Yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi 1976]], ym mlwyddyn wythcanmlwyddiant yr Eisteddfod, dyfarnodd y beirniaid mai awdl Dic Jones, a oedd wedi ei hysgrifennu dan ffugenw fel sy'n arferol, ar y testun "Gwanwyn" oedd yr orau. Ond gan fod Jones yn aelod o'r Panel Llenyddiaeth, ac felly yn gwybod beth fyddai'r pynciau ymlaen llaw, cafodd ei ddiarddel ar y funud olaf ac nis cadeiriwyd. Cadeiriwyd yr ail orau yn y gystadleuaeth, sef y Prifardd [[Alan Llwyd]] a oedd yn anfodlon. Cyhoeddwyd awdlau'r ddau fardd yn y Cyfansoddiau.