Thomas Gwynn Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Ychwanegu manylion |
||
Llinell 38:
| nodiadau =
}}
Newyddiadurwr, [[bardd]], ysgolhaig a [[nofel]]ydd oedd '''T. Gwynn Jones''', enw llawn '''Thomas Gwyn Jones''' ([[10 Hydref]] [[1871]] – [[7 Mawrth]] [[1949]]). Roedd T. Gwynn yn llenor amryddawn a wnaeth gyfraniad pwysig iawn i [[llenyddiaeth Gymraeg|lenyddiaeth Gymraeg]], ysgolheictod Cymreig ac astudiaethau [[llên gwerin]] yn hanner cyntaf yr [[20g]]. Roedd hefyd yn gyfieithydd medrus o'r [[Almaeneg]], [[Groeg]], [[Gwyddeleg]] a [[Saesneg]]. Cafod ei eni yn Gwyndy Uchaf, [[Betws yn Rhos]] yn yr hen [[Sir Ddinbych]] (sir [[Conwy (sir)|Conwy]] heddiw), a'i gladdu ym mynwent Heol Llanbadarn
Yr oedd yn fab i Issac a Jane Jones. Priododd Margaret Jane Davies yn 1899.
==Bywgraffiad==
Cafodd T. Gwynn Jones ei addysg gynnar yn [[Dinbych|Ninbych]] ac [[Abergele]]. Daeth yn is-olygydd ''[[Baner ac Amserau Cymru]]'' (''Y Faner'') yn [[1890]]. Ysgrifennodd gofiant ardderchog i'r cyhoeddwr [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] [[Thomas Gee]] sy'n dryll i'w oes yn ogystal â'i waith. Yn 1894 symudodd i Lerpwl a dod yn is-olygydd i [[Isaac Foulkes]]. Erbyn 1898 roedd yn is-olygydd ar ''[[Yr Herald]]'' a'r ''[[Caernarvon and Denbigh Herald]]''. Bu wedyn yn olygydd ar ''[[Papur Pawb|Bapur Pawb]]''. Yn 1905, treuliodd sawl mis yn yr Aifft - Alexandria a Chairo - i geisio lleddfu diagnosis o'r diciâu. Yn 1908 bu'n o sylfeinwyr [[Clwb Awen a Chân]] yng Nghaernarfon.
Aeth i weithio i [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Lyfrgell Genedlaethol Cymru]] yn [[Aberystwyth]] yn 1909 ar ôl blynyddoedd o newyddiadura, ac wedyn yn ddarlithydd yn yr adran Gymraeg yng [[Prifysgol Aberystwyth|Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth]]. Yn [[1919]] daeth yn athro [[llenyddiaeth Gymraeg]] yn y coleg hwnnw hyd at ei ymddeoliad yn 1937.
Enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|gadair]] [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1902]] am ei awdl ''[[Ymadawiad Arthur]],'' a hefyd yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain yn 1909.
Anrhydeddwyd ef â D.Lit. [[Prifysgol Cymru]] a Phrifysgol Iwerddon, ill dau yn 1938. Roedd yn [[Heddychaeth yng Nghymru|wrthwynebydd cadarn]] yn erbyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]]. Cerddodd allan o Gapel Tabernacl, Aberystwyth pan weddïodd y gweinidog am fuddugoliaeth i [[Deyrnas Unedig|Brydain]] yn y rhyfel.
==Oriel==
|