Blodwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Owain2002 (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 3:
Enw merch yw Blodwen, enw sy'n deillio o'r gair 'blodyn' a 'gwyn'.
 
==Debut a chroeso==
Cafodd y opera ei pherfformio am y tro cyntaf yn [[Aberystwyth]] ar Fai 21, 1878.
 
Yn dilyn y perfformiad cyntaf yn Aberystwyth aethpwyd â Blodwen ar daith yn siroedd [[Morgannwg]] a [[Mynwy]], a chafodd ei llwyfannu gan y '[[Welsh Representative Choir]]' ym [[Bryste|Mryste]] ac yn [[Alexandra Palace]] yn [[Llundain]].
 
Cafodd yr opera dderbyniad gwresog; ‘roedd y gerddoriaeth yn rhywbeth mor newydd a dieithr fel bod y bobl yn gwirioni'n lân arni. Fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf yn ngogledd Cymru gan ‘[[Gôr Mawr y De]]’ yn [[Eisteddfod]] [[Llanrwst]] ym mis Awst 1878, ac ar ôl y perfformiad hwnnw dywedodd gohebydd ar dudalennau [[Y Faner]] taw Blodwen oedd y ‘darn cerddorol mwyaf swynol' y bu'n gwrando arno erioed! Erbyn haf 1879 ymffrostiai'r cyfansoddwr bod yr opera wedi cael ei llwyfannu tua hanner cant o weithiau, a'r un pryd dywedai mai ei nod a'i uchelgais oedd trefnu perfformiad ohoni 'gyda gwisgoedd ac ymddangosiad priodol'. Digwyddodd hynny yn [[Aberdâr]] ar Ragfyr 26, 1879. Pryd y perfformiwyd y gwaith gan [[Undeb Corawl Aberdâr]] dan [[arwiniad]] [[Rees Evans]].
 
==Crynodeb==
===Act 1===
''Golygfa 1''
 
Mae yna brysurdeb mawr yng Nghastell [[Maelor]] gan fod Elen o'r Gastell i briodi Arthur o Gastell [[Berwyn]] y diwrnod wedyn. Mae Iarlles Maelor yn bwrw golwg dros yr anrhegion a dderbyniodd ei merch, Elen. Bisgwylir i [[Syr]] Hywel Ddu a Blodwen, y ferch mae wedi ei mabwysiadu, gyrraedd unrhyw funud. Daw negesydd i hybysu eu bod wedi cyrraedd. Clywir y gweision a'r morynion yn dweud yn dda am Arthur ac Elen. Ac yna daw Iolo'r [[bardd]] i'r ystafell i longyfarch y ddau.
 
''Golygfa 2''
 
Mae'r seremoni briodas drosodd ac mae ffrindiau'r pâr ifanc yn llawen o'u gwmpas yn y neuadd. Mae hi'n derfyn dydd a'r ŵyl ar ei hanterth, pan, yn sydyn, ymddengys nifer o filwyr [[Plantagenet]] a hawlio goriadau'r castell, ond ni chânt fawr o sylw a gorchmynnir iddynt fynd ymaith ar unwaith.
 
===Act 2===
''Golygfa 1''
 
Ar lawnt y castell, yn gynnar yn y bore, mae'r cwmni'n paratoi i fynd i [[hela]]. Daw Iolo atynt, ac mae'n proffwydo, oddi wrth olwg yr wybren, fod gwae a thrybini gerllaw.
 
Nid yw Syr Hywel Ddu yn ymuno â'r [[helwyr]], ac mae'n mynegi ei gariad at Blodwen, o guddfan gyfagos, yn clywed y gân ac yn mynegi ei chariad hithau tuag at Hywel.
 
Daw'r helwyr yn ôl dan ganu. Ond dyma negesydd yn ymddangos i ddweud fod proffwydoliaeth Iolo wedi ei gwireddu - mae byddin Harri, Brenin [[Lloegr]], yn ymosod ar y wlad, ac mae'n galw ar y gwŷr, yn enw [[Tywysog Cymru]], i fynd i amddiffyn eu cartref a'u gwlad.
 
''Golygfa 2''
 
Yng Nghastell Maelor, mae Syr Hywel ac Arthur yn cysuro'i gilydd, ac fe glywir cytgan o filwyr [[Cymru]] sydd am fynd i'r gad. Mae Elen yn mynegi ei thristwch wrth ffarwélio â'i phriod, ac yn rhoi [[snoden]] wen ar ei fynwes. Mae Blodwen hithau yn gwneud yr un peth i Syr Hywel. Daw'r olygfa i ben gyda chytgan gan y milwyr Cymreig.
 
''Golygfa 3''
 
Daw negesydd Arglwyddes Maelor ati yn ei hystafell yn y Castell gyda newyddion o'r frwydr waedlyd. Mae Arthur a Syr Hywel wedi dangos gwrhydri eithriadol yn y gad, ond, er hyn, mae Iolo yn rhafweld taw gwan yw'r gobeithion am fuddugoliaeth.
 
===Act 3===
''Golygfa 1''
 
Mae Arthur wedi ei glwyfo'n arw ac wedi ei ddwyn i Gastell Maelor. Er gwaethaf ei ddioddefaint, mae'n dawel dan ofal tyner Elen. Mae'n mynegi ei serch tuag ati unwaith eto ac yna'n marw. Dilynir hyn gan gytgan yr angladd.
 
''Golygfa 2''
 
Daw negesydd Arglwyddes Maelor o faes y gad gyda'r newyddion fod y Cymry wedi eu gorchfygu ac yn cilio tuag [[Eryri]]. Mae Blodwen yn gisgwyl yn bryderus am ryw hanes am ei hanwylyd. Yna daw Iolo gyda'r newydd drwg - mae lluoedd y Cymry wedi eu trechu'n llwyr a Syr Hywel Ddu yn garcharor.
 
''Golygfa 3''
 
Yng Ngharchar [[Caer]], clywir cytgan truenus y carcharorion. Daw Blodwen a Iarlles Maelor i ymweld â Syr Hywel yng nghell y condemniedig, trwy ganiatâd arbennig. Wrth ganu ei ffarwél i Blodwen, mae Hywel yn rhoi yn ôl i Blodwen arwyddnod eu serch, gynt mor wyn on erbyn hyn yn goch gan y waed.
 
Tra mae ef yn roi ei gusan olafi'w anwylyd, clywir cân fuddugoliaeth y Saeson y tu allan, ac atebir hwy gan y Cymry o'r gell yn canu eu dioddefain. Yn sydyn daw sŵn curo trwm ar ddrysau mawr y carchar. Mae deithryn yno yn mynnu cael ei ddangos i gell Syr Hywel.
 
Mae Iolo yn gofyn iddo beth yw ei enw, ac er rhyfeddod pawb, canfyddir taw hwn yw Rhys Gwyn, tad Blodwen, yr oedd pawb yn tybio iddo gael ei ladd ugain mlynedd cyn hyn.
 
Mae Blodwen a'i thad yn cofleidio, ac mae Rhys Gwyn yn traddodi'r newydd mawr sydd ganddo - y mae [[Brenin]] Lloegr wedi marw, ac mae gorchymyn ar i bob carcharor gael pardwn a'i rhyddhau. Agorir drysau'r carchar a daw'r opera i ben gyda phawb yn ymuno mewn cân o lawenydd.
 
[[Categori:Caneuon Cymreig]]