Trawsfynydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
[[Delwedd:Trawsfynydd.jpg|250px|bawd|de|Trawsfynydd: Y pentref o gyfeiriad y Bala]]
[[Delwedd:Cross Foxes, Trawsfynydd.jpg|250px|bawd|de|Canol Trawsfynydd: tafarn y Cross Foxes.]]
Pentref a chymuned yn ne [[Gwynedd]] yw '''Trawsfynydd''', sy'n gorwedd ar lan ddwyreiniol [[Llyn Trawsfynydd]] ar ochr cefnffordd de-gogledd yr [[A470]]. Mae'n adnabyddus fel man geni y bardd [[Hedd Wyn]]. Mae 81.7% o'r pentrefwyr yn medru'r [[Gymraeg]]. Cyfanswm arwynebedd y plwyf yw 12,830 hectar gyda phoblogaeth o 1000 bobl.
 
Adeiladwyd [[Atomfa Trawsfynydd]] ar lannau'r llyn. Mae hi bellach yn cael ei dadgomisiynu. O safbwynt gwleidyddol, mae'r Pentref yn rhan o ward ehangach [[Trawsfynydd]] ac yn cael ei gynrychioli ar [[Gwynedd|Gyngor Gwynedd]] gan y Cynghorydd Thomas Ellis (Annibynnol). Mae ysgol gynradd yn y pentref o'r enw [[Ysgol Bro Hedd Wyn]], sy'n rhan o ddalgylch [[Ysgol y Moelwyn]], [[Blaenau Ffestiniog]]. Mae dwy dafarn yn y pentref o'r enw'r Cross Foxes a'r White Lion. Mae nifer o siopau ar gael yn y pentref gan gynnwys Swyddfa Bost, Fferyllfa a Cigydd. Mae dwy garej yn y pentref hefyd.