Edward Lhuyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
D'ohBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: fr:Edward Lhuyd
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Ganwyd Edward Lhuyd yn fab gordderch i Edward Lloyd o [[Llanforda|Lanforda]], ger [[Croesoswallt]], aelod o deulu bonheddig y Llwydiaid, a pherthynas bell iddo, Bridget Pryse o [[Glanffraid]], oedd yn perthyn i un o ganghennau teulu [[Gogerddan]]. Magwyd Lhuyd ym mhlwyf Lappington yn [[Sir Amwythig]]. Fe'i addysgwyd yn [[Ysgol Croesoswallt]] ac, o 1682 ymlaen, yng [[Coleg Yr Iesu, Rhydychen|Ngholeg yr Iesu]], [[Prifysgol Rhydychen|Rhydychen]], er iddo adael y coleg cyn iddo raddio. Ym 1684 penodwyd ef yn gynorthwyydd i Robert Plot fel Ceidwad [[Amgueddfa'r Ashmolean]] yn [[Rhydychen]]; bu yntau yn ddiweddarach yn Geidwad yr amgueddfa honno o 1690 hyd 1709.
 
Teithiai Lhuyd ar hyd a lled yr [[Prydain|Ynysoedd PrydeinigFawr|Prydain]] yn ei waith. Aeth ar daith i [[Eryri]] ym [[1688]] er mwyn cofnodi planhigion lleol y fro ar gyfer ''Synopsis Methodica Stirpium Britannicorum'', llyfr gan y botanegwr [[John Ray]]. Yna, wedi 1697, cychwynnodd Llwyd ar daith o gwmpas pob sir yng Nghymru, yn ogystal â'r [[Yr Alban|Alban]], [[Iwerddon]], [[Cernyw]] a [[Llydaw]]. Argraffwyd ''Lithophylacii Britannici Ichnographia'', ei gatalog o [[ffosil|ffosiliaid]], a gasglwyd o amgylch ardal Rhydychen yn bennaf, ym [[1699]] gydag ychydig o gymorth ariannol gan [[Isaac Newton]]. Ym 1707 cyhoeddodd Lhuyd y gyfrol ''Glossography'', y gyfrol gyntaf o'r ''[[Archaeologia Britannica]]'' arfaethedig a'r unig un a welodd olau dydd, sy'n astudiaeth o iaith a diwylliant y gwledydd Celtaidd ar seiliau gwyddonol. Roedd y llyfr yn garreg filltir bwysig yn y meysydd hynny; man cychwyn yr astudiaeth fodern o'r [[ieithoedd Celtaidd]].
 
Etholwyd Lhuyd yn aelod o'r [[Y Gymdeithas Frenhinol|Gymdeithas Frenhinol]], flwyddyn cyn ei farwolaeth ym 1709. Enwyd y [[Lili'r Wyddfa|lili]] a ddarganfodd yn tyfu ar [[yr Wyddfa]] yn ''Lloydia serotina'' ar ei ôl, yn ogystal â [[Cymdeithas Edward LhuydLlwyd|Chymdeithas Edward Llwyd]], sef cymdeithas naturiaethol genedlaethol Cymru.
 
==Llyfryddiaeth==