Cyfres Taylor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Mewn [[mathemateg]], mae '''cyfres Taylor''' yn cynrychioli [[ffwythiant]] fel swm [[anfeidraidd]] o dermau a gyfrifir o werthoedd [[deilliant|deilliannau]]'r ffwythiant (''the function's derivatives'') ar un [[Pwynt (geometreg)|pwynt]].
 
Mae'r defnydd cyntaf o gyfres Taylor i'w ganfod yn [[India]], yng ngwaith y [[mathemategydd]] [[Mādhava ofo Sangamagrāma]] (c. 1340 – c. 1425), gwaith sydd bellach ar goll. Dyfynir llawer o'r gwaith gan fathemategwyr Indiaidd eraill, a gan Ysgol Seryddiaeth Kerala, a gwyddom iddo lunio rhywbeth agos iawn at yr hyn a adnabyddir heddiw fel "cyfres Taylor". <ref name="MAT 314">{{cite web| publisher=Canisius College| work=MAT 314| url=http://www.pas.rochester.edu/~rajeev/papers/canisiustalks.pdf| title=Neither Newton nor Leibniz – The Pre-History of Calculus and Celestial Mechanics in Medieval Kerala| accessdate=2006-07-09| deadurl=no| archiveurl=https://web.archive.org/web/20150223113517/http://www.pas.rochester.edu/~rajeev/papers/canisiustalks.pdf| archivedate=2015-02-23| df=}}</ref><ref name="dani">{{cite journal| title=Ancient Indian Mathematics – A Conspectus| author= S. G. Dani|journal= Resonance |volume=17|issue=3|year=2012|pages=236–246|doi=10.1007/s12045-012-0022-y}}</ref> Roedd ei ddefnydd o'r gyfres yn berthnasol i [[ffwythiannau trigonometreg|ffwythiannau trigonometrig]] sin, cosin, tangiad, a gwrthdangiad.
 
Lluniwyd y cysyniad modern o gyfres Taylor gan y mathemategydd Albanaidd James Gregory ond a gyflwynwyd yn ffurfiol gan y mathemategydd Saesneg Brook Taylor yn 1715. Os yw cyfres Taylor yn canolbwyntio ar [[sero]], yna gelwir y gyfres honno hefyd yn "gyfres Maclaurin", a enwir ar ôl y mathemategydd [[Alban]]aidd Colin Maclaurin, a wnaeth ddefnydd helaeth o'r achos arbennig hwn o gyfres Taylor yn y [[18g]].