Llanallgo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
llun |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Llanallgo - geograph.org.uk - 8362.jpg|250px|bawd|de|Llanallgo]]
[[Image:RoyalCharterLlanallgo.JPG|thumb|180px|right|Cofeb y Royal Charter ym mynwent Llanallgo]]▼
Mae '''Llanallgo''' yn bentref bychan yng ngogledd-ddwyrain [[Ynys Môn]] gerllaw [[Moelfre]], ar lôn yr [[A5025]]. Y prif atyniad yw Eglwys Sant Gallgo. Dywedir fod Gallgo yn frawd i [[Gildas]], felly gall fod y safle yn dyddio i'r chweched ganrif. Nid oes unrhyw weddillion o'r cyfnod hwnnw i'w gweld; mae'r rhan fwyaf o'r eglwys bresennol yn ganlyniad ail-adeiladu yn y [[19eg ganrif]].
▲[[Image:RoyalCharterLlanallgo.JPG|
Daeth Llanallgo i sylw pan ddrylliwyd y llong ''[[Royal Charter]]'' ar y creigiau gerllaw ym mis Hydref [[1859]]. Ym mynwent Llanallgo y claddwyd y rhan fwyaf o'r cyrff a gafodd eu darganfod, a gellir gweld y beddau a chofeb yn y fynwent. Daeth rheithor Llanallgo ar y pryd, y Parchedig [[Stephen Roose Hughes]], i amlygrwydd hefyd trwy ei ymdrechion yn gofalu am y cyrff, ceisio darganfod pwy oeddynt a chysuro'r teuluoedd. Credir i hyn achosi ei farwolaeth gynamserol ef ei hun yn fuan wedyn. Gellir gweld ei fedd yn y fynwent, ac mae pobl yr ardal yn parhau i ofalu amdano.
Mae nifer o hynafiaethau
{{Trefi Môn}}
|