Melangell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
delwedd |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
[[Delwedd:Pennant Melangell screen.png|350px|bawd|Ysgrîn bren gerfiedig eglwys [[Pennant Melangell]]; gwelir y santes yn y canol.]]
Yn ôl traddodiad, roedd yn enedigol o [[Iwerddon]] ac yn ferch i frenin. Ffôdd i osgoi priodas oedd wedi ei threfnu iddi gan ei thad, a daeth i [[Powys|Bowys]] i fyw fel meudwyes ym mhen uchaf dyffryn [[Afon Tanad]]. Un diwrnod daeth Brochwel, Tywysog Powys, (efallai [[Brochwel Ysgithrog]]) i'r dyffryn i hela. Ymlidiodd ei gŵn hela [[ysgyfarnog]], a redodd at Melangell a llochesu dan ei gwisg. Gwnaeth hyn ddigon o argraff ar Brochwel nes peri iddo roi'r dyffryn, a elwir yn awr yn [[Pennant Melangell|Bennant Melangell]]
Daeth Melangell yn abades mynachlog fechan yno, ac mae'r eglwys yno wedi ei chysegru iddi. Yn yr eglwys gellir gweld creirfa Melangell, sydd wedi ei ail-adeiladu wedi iddo gael ei ddinistrio adeg y [[Diwygiad Protestannaidd]] ac sy'n un o'r esiamplau gorau o'i fath ym Mhrydain.
Roedd yr eglwys yn gyrchfan boblogaidd i bererinion yn y Canol Oesoedd, ac yn ddiweddar mae'r cyngor sir wedi creu llwybr "Pererindod Melangell" yn arwain yno. Mae Melangell yn nawddsant ysgyfarnogod. ==Cysylltiad allanol==
|