Geraint Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tombawd (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Cywirwyd y camdeipio
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap Android
Llinell 22:
}}
 
Mae '''Geraint Griffiths''' (ganwyd [[1949]]) yn ganwr adnabyddus yng [[Cymru|Nghymru]]. Mae hefyd yn gyfansoddwr ac yn actor. Fe'i magwyd ym [[Pontrhydyfen|Mhontrhydyfen]], [[Dyffryn Afan]], lle mynychodd [[Ysgol Gymraeg Pontrhydyfen]], ac [[Ysgol Ramadeg Glan Afan]], [[Port Talbot]]. Yn ystod ei amser yn yr ysgol uwchradd ffurfiodd y grŵp 'The Undecided' a 'The Dream Time People'. Astudiodd nyrsio yn [[Ysbyty Rhyd Lafar]] ger [[Caerdydd]], [[Ysbyty Glan Gwili]], [[Caerfyrddin]], ac YsbytuYsbyty Saint George yn [[Llundain]].
 
Tra yn Llundain fu'n gerddor proffesiynol gyda'r bandiau Limbotrol, Boots a Butty. Hefyd bu'n teithio 'nôl yn aml i chwarae gitâr flaen ar lwyfan gyda [[Edward H. Dafis]]. Bu hefyd yn chwarae gitâr ac yn canu ar record hir cyntaf Edward H sef ''Hen Ffordd Gymreig o Fyw'' a'r drydedd sef ''Sneb yn Becso Dam''. Bu'n gerddor sesiwn ar recordiau [[Hergest]], Delwyn Sion a'r recordiad o'r opera roc ''Nia Ben Aur''. Daeth adref i Gymru i ymuno â'r band [[Cymraeg]], [[Injaroc]]. Bu'r grŵp gyda'i gilydd am naw mis. Cyhoeddwyd un record hir - ''Halen y Ddaear''. Ar ôl chwalu Injaroc ffurfiodd Geraint y grwp roc [[Eliffant (band)|Eliffant]] a chyhoeddi dwy record hir gyda [[Cwmni Recordiau Sain]]: ''M.O.M.'' a ''Gwin y Gwan'', a sengl ar label y band, Llef.