Cyfieithiad benthyg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mewn [[ieithyddiaeth]] mae '''calque''' (ynganiad [[IPA]]: ''kælk'') yn derm ar gyfer gair neu ymadrodd am beth neu gysyniad sydd wedi ei chyfieithu'n llythrennol, gair-am-air neu wraidd-wrth-wraidd o iaith arall. Yn aml gall y gair neu'r ymadrodd calque wneud dim synnwyr yn yr iaith darged newydd heb wybod y cyd-destun neu ystyr y gair yn yr iaith wreiddiol.
 
Nid yw calque yr un peth â chyfieithiad. Er enghraifft, mae "ci" yn gyfieithiad o "dog". Ond mae "[[ci poeth]]" yn calque o "hot dog".
 
Mae ''calque'' ei hun yn air benthyg o'r [[Enw|enw]] [[Ffrangeg]], ''calque'' ("dargopïo", "dynwared", "copi agos" - defnyddir '''dynwarediad''' fel cyfieithiad Gymraeg o calque yn Geiriadur yr Academi <ref>)https://geiriaduracademi.org/</ref>). Mae'r [[berf|ferf]] calquer yn golygu "i ddargopïo/trasio/dynwared yn agos"; ''papier calque'' yw papur trasio yn y Ffrangeg.<ref>''The New Cassell's French Dictionary: French-English, English-French'', New York, Funk & Wagnalls Company, 1962, p. 122.</ref> Mae "gair benthyg" yn y Gymraeg ei hun yn calque o'r Saesneg "loanword" sydd ei hun, yn ei dro, yn calque o'r gair [[Almaeneg]], "Lehnwort".<ref>http://www.humanlanguages.com/germanenglish/</ref>