Gweriniaeth Pobl Tsieina: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 93:
Gellir dadlau mai'r diwylliant Tsieineaidd yw'r mwyaf hirhoedlog a fu erioed. Unwyd yr ymherodr cyntaf Qin (''Qinshi Huangdi'', 秦始皇第) nifer o wledydd bychain i ffurfio un wlad fawr ac y mae'n debyg mai i'w gofio ef y defnyddir y gair Tsieina.
 
Yn ystod rhyw ugain canrif caed hanes o linach ymherodrol yn ffynnu, llygru ac yna cael ei gael ei ddisodli, gan amlaf wrth i'r werin godi ac ymryfela. Parhaodd hyn tan 1949 a sefydliad GPT.
 
Gellid dadlau mai uned sylfaenol cymdeithas y llwyth Han (hynny yw, prif lwyth y Tsieinaid) yw'r teulu. Daw llysenw o flaen yr enw personol ac erstalwm byddai'r holl deulu yn cael ei gosbi pe troseddai un aelod. Nid yw'r meddylfryd hwn wedi llwyr ddiflannu.
 
Cyn y Chun Jie (春节), Gŵyl y Gwanwyn, sydd yn newid yn ôl y lleuad, bydd miliynau o bobl yn ceisio cyrraedd adref i gael gwledd gyda'r holl deulu'n bresennol, yn draddodiadol pryd o "''jiaozi'' (饺子)", math o dwmplins bydd y teulu yn paratoi gyda'i gilydd cyn eu berwi a bwyta ar ôl rhoi math arbennig o finegr arnynt. Am rai dyddiau bydd yr holl wlad yn cymryd hoe, gyda ffatrïoedd yn cau i lawr.
 
O fewn y teulu gwahaniaethir rhwng brawd hyn a brawd iau, chwaer hyn a chwaer iau, sydd yn adlewyrchu i ryw raddau hierarchaeth y gymdeithas. O fewn uned waith neu gwmni disgwylir i'r rhai hŷn (e.e. Lao Zhang – Hen Zhang) edrych ar ôl y rhai iau (Xiao Li – Li Bach) ac i'r iau ufuddhau a pharchu'r bobl hŷn.
 
O dan y drefn draddodiadol byddai dyn cyfoethog yn ceisio meddu ar nifer o wragedd a goddrych. Byddai teulu yn gobeithio am feibion ac yn dibrisio merched (nid yw'r meddylfryd hwn wedi diflannu), hyn oherwydd bod merch wrth briodi yn cael ei hystyried yn rhan o deulu ei gwr. Teflid babanod menywaidd i ffwrdd (erthyliad yw'r ateb nawr) neu eu lladd. Oherwydd y deheuad hwn am feibion ceir fwy o fechgyn nag o ferched yn Tsieina gyda'r canlyniad mai prin iawn yw hen ferched Tsieina gan fod traddodiad yn ymofyn epil (gwrywaidd). Y tebyg yw mai'r gred draddodiadol yw bod angen plant i gynnal eu rhieni yn eu henaint – ac ar ôl iddynt farw trwy ysgubo'u beddau ar yr ŵyl benodol a gyrru arian a nwyddau iddynt yn y "byd a ddaw". Gellir prynu "arian uffern" i'w yrru i'ch hynafiaid meirw trwy ei losgi (a hyd yn oed setiau radio wedi eu gwneud o bapur). Yr ofn traddodiadol oedd cael plant na fedrid dibynnu arnynt i wneud hyn, fel bod eu hynafiaid yn clemio yn y byd a ddaw.
Llinell 174:
 
== Dolenni allanol ==
* [http://www.china.org.cn/english/index.htm China.org.cn] - Porth gwe swyddogol Tsieina
 
{{Asia}}