Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau) →Hanes Llundain: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 26:
Prifddinas y [[Deyrnas Unedig]] a phrifddinas [[Lloegr]] yw '''Llundain''' ([[Saesneg]]: ''London''). Saif y ddinas ar lan afon [[Afon Tafwys|Tafwys]] yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda phoblogaeth o tua 7.5 miliwn. Mae 130 o filltiroedd rhwng Llundain a [[Caerdydd|Chaerdydd]].
Mae'r ddinas wedi bodoli ymhell cyn dyfodiad y Saeson i Loegr: ceir olion [[Celtiaid|Celtaidd]] a [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeinig]], ac mae'n debyg bod yr enwau modern arni, drwy'r enw Lladin '''Londinium'', o darddiad Celtaidd. Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' (12fed ganrif) a'r chwedl Gymraeg ''[[Cyfranc Lludd a Llefelys]]'', [[Lludd fab Beli]] a roddodd ei enw i'r ddinas drwy'r enw
Mae pencadlys a phrif faes [[rygbi]] Lloegr yn [[Twickenham]], ardal faestrefol yn ne-orllewin y ddinas. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i sawl tîm [[pêl-droed]]. Lleolir stadiwm genedlaethol newydd Lloegr yn [[Wembley]] ers 2007; fe'i codwyd ar gost o £800,000,000.<ref>[http://www.answers.com/topic/wembley-stadium Gwefan Saesneg 'Answers.com']</ref>
== Hanes Llundain ==
Mae tarddiad yr enw Llundain yn dal i fod yn ddirgelwch. [[Sieffre o Fynwy]] oedd yn gyfrifol am darddiad yr enw cynnar gan iddo ysgrifennu hanes y brenin [[Celtiaid|Celtaidd]] [[Lludd fab Beli]], a gymerodd drosodd y ddinas a'i galw'n Kaerlud. Newidiodd yr enw yma dros amser i ''Kaerludien'' ac yna ''London''. Mae yna ddamcaniaethau eraill dros darddiad y gair, rhai yn dod o'r [[Brythoneg|Frythoneg]] ac un honiad heb fawr o goel arno yn deillio nôl i'r [[Eingl-sacsonaidd]]. Mae tystiolaeth fod aneddiadau Brythonig gwasgaredig yn yr ardal yn deillio nôl cyn y [[Rhufeiniaid]], ond sefydlwyd yr anheddiad sylweddol cyntaf gan y Rhufeiniaid a'i alw'n ''Londinium'', yn dilyn concwest y Rhufeiniaid yng [[gwledydd Prydain|ngwledydd Prydain]]. Goroesodd y ''Londinium'' yma am 17 mlynedd yn unig oherwydd yn y flwyddyn 61 O. C. ymosododd ''Llwyth yr [[Iceni]]aid'' ar Lundain o dan arweiniad [[Buddug (Boudica)|Brenhines Buddug (Boundica)]]. Roedd hon yn fuddugoliaeth ysgubol a llosgwyd Llundain (a oedd eisoes yn datblygu'n brifddinas ''de facto'' y dalaith) i'r llawr. Mae'r lludw yn dal i gael ei gloddio oddi yno ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach.<ref>Hanes Cymru gan John Davies, Gwasg Penguin, 1990, tudalen 29</ref>. Ailadeiladwyd Llundain ar ôl yr ymosodiad, a daeth yn brif ddinas ar ôl [[Colchester]]. Roedd gan y Llundain Rhufeinig boblogaeth o tua 60,000 erbyn yr amser yma.
Yn 450 O.C. roedd Llundain yn parhau i fod yn nwylo'r Brythoniaid.<ref>Hanes Cymru gan John Davies, Gwasg Penguin, 1990, tudalen 56</ref>
Erbyn y [[600au]], cododd yr
[[Delwedd:London 1300 Historical Atlas William R Shepherd (died 1934).PNG|200px|dde|bawd|Map o Lundain yn 1300]]
Mewn dial, ymosododd byddin y Saeson gan ddymchwel
Dechreuwyd adeiladu [[Palas San Steffan]] yn 1097 yn agos i’r abaty o’r un enw. Mae [[San Steffan]] wedi bod yn ardal lywodraethol o’r cyfnod hwnnw hyd heddiw. Tyfodd Llundain mewn cyfoeth a phoblogaeth yn ystod yr [[Oesoedd Canol]]. Yn 1100 roedd poblogaeth Llundain tua 18,000; erbyn 1300 tyfodd i bron 100,000. Gwaharddodd [[Edward I, brenin Lloegr|Brenin Edward]] Iddewon o'r ddinas a lleihaodd y boblogaeth.
Llinell 45:
[[Delwedd:Great Fire London.jpg|dde|bawd|200px|[[Tân Mawr Llundain]]]]
Daeth trychineb y [[Pla du]] yn y 14eg ganrif. Collodd Llundain traean o’i phoblogaeth. Roedd yn weddol dawel yn ystod y canol oesoedd, oni bai am rhai rhyfeloedd cartref megis [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]]. Ar ôl trechu'r [[Armada Sbaeneg]] yn 1588, cafwyd sefydlogrwydd llywodraethol a gwelwyd twf yn y ddinas. Yn 1603 daeth [[Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI)]] yn frenin Lloegr. Roedd ei ddeddfau gwrth-[[Catholigiaeth|Gatholig]] yn amhoblogaidd iawn, ac felly cafwyd ymgais i'w lofruddio; adnabyddir hyn fel
Achosodd y Pla Mawr nifer o broblemau yn Llundain yn gynnar yn yr 17g. Lladdwyd rhwng 70,000 a 100,000 yn y pla rhwng 1665-66. Daeth y pla i ben fwy na thebyg oherwydd i’r [[Tân Mawr Llundain|dân mawr Llundain]], ei glirio yn 1666. Cynnwyd y tân yn y ddinas wreiddiol ac ymledodd drwy’r adeiladau pren a'r toeau gwellt.
Yn dilyn twf mawr Llundain yn y 18fed ganrif, fe gafodd yr anrhydedd o'i galw'r ddinas fwyaf yn y byd o 1831 i 1925. Arweiniodd y cynnydd mewn cludiant at adeiladu’r system danddaearol cyflyma'r byd.
Llinell 115:
== Cysylltiadau Cymreig ==
{{prif|Cymry Llundain}}
Yn anad un ddinas arall yn Lloegr mae gan Lundain gysylltiadau hir â [[Cymru|Chymru]]. Mae [[Cymry Llundain]] wedi cael eu disgrifio fel "yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru". O'r Oesoedd Canol Diweddar ymlaen, ceir cofnodion am Gymry yn ymweld â Llundain
Daeth newid pwysig yn y 1950au a'r 1960au gyda chyhoeddi [[Caerdydd]] yn brifddinas Cymru a'r cynnydd mewn gwaith gweinyddol a ddaeth yn sgil hynny, a lleihaodd nifer y Cymry a aethai i Lundain er mwyn eu gyrfa broffesiynol. Amcangyfrifir gan rai bod tua 100,000 o bobl a aned yng Nghymru (heb sôn am bobl o dras Gymreig) yn byw yn Llundain heddiw, ond erbyn hyn mae rhwymau cymdeithas wedi llacio a bychan iawn mewn cymhariaeth â'r hen ddyddiau mae cymdeithas Gymraeg/Gymreig y ddinas erbyn heddiw.
Llinell 123:
== Eisteddfod Genedlaethol ==
Cynhaliwyd [[Eisteddfod Genedlaethol]] yn Llundain ym [[1887]] a [[1909]]:
* [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llundain 1887]]
|