Moronen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 18:
 
[[Llysieuyn]] yw '''moron'''. Fel arfer bwytir y gwraidd sydd yn [[oren (lliw)|oren]].
 
Mae '''moron''' (unigol: ''moronen'', er mai yn y lluosog y cyfeirir at y llyseun fel rheol) yn cael ei drin fel llysiau yr un rhywogaeth â moron gwyllt, ''Daucus carota''. Mae hyn yn croesi yn rhwydd iawn gyda'r foronen bwytadwy, fel y gall gwraidd gwyn ymddangos yn achlysurol rhwng y moron wedi'u tyfu. Mae moron yn gyfoethog o beta carote, y mae'r corff yn ei drawsnewid i [[fitamin A]].
 
Mae moron yn cynnwys [[Beta-carotene]], sydd yn dda i'r iechyd. Yn yr [[Ail Ryfel Byd]], cyhoeddodd llywodraeth [[Prydain]] y propaganda bod moron yn eich helpu i weld yn y tywyllwch. Ond roedd hyn er mwyn cuddio oddi wrth y [[Natsïaid]] y ffaith eu bod nhw wedi datblygu [[RADAR]] i ddarganfod yr [[awyren]]nau [[Almaen]]ig. [http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk/2146171.stm]
 
==Tyfu==
[[File:Carrots of many colors.jpg|thumb|right|Moron mewn amrywiaeth o liwiau]]
Mae'r fornen yn blanhigyn eilflwydd sy'n perthyn i'r gangen umbellifer o deulu rhywiogaethol Apiaceae. Bydd yn cychwyn ei dyfniant drwy dyfu tisw o ddail tra'n creu'r [[prif wreiddyn]] fawr. Gall cyltifar sydyn-dwf aeddfedu o fewn 3 mis (90 diwrnod) o hau'r hadyn, tra bod cyltifar araf-dwf yn cael ei medi ar 4 mis (120 diwrnod). Mae'r gwraidd yn cynnwys mesur uchel o carotene alpha a beta, ac yn ffynhonnell dda o Fitamin K a Fitamin B6. Serch hynny, mae'r grêd bod bwyta moron yn gwella golwg yn y nos yn fyth a ledaenwyd gan lywodraeth Prydain yn yr [[Ail Ryfel Byd]] er mwyn cam-arwain yr Almaen ar ei gallu milwrol.
 
Mae moron yn lysiau gwerthfawr iawn i dyfu yn yr ardd neu mewn cynwysydd ar y balconi. Gall y gwreiddyn gael ei hau ym mis Ionawr. Yn yr hau cynnar, mae'n bosib y bydd blodau'n dal yn digwydd yn yr un flwyddyn. Maent yn dechrau tyfu'n eithaf cynnar yn y tymor ac yn gymharol fuan gall un gymryd ychydig ohonynt bob dydd i fwyta'n amrwd. A po fwyaf y mae un wyth allan o'r cae, y gorau y bydd y rhai eraill yn tyfu.
 
==Etymoleg==
Daw'r gair Cymraeg "moron" o'r Saesneg cynnar, "moren". Mewn Hen Saesneg gan bod moron yn arferol yn lliw gwyn ar y pryd ac yn anodd i'w gwahaniaethau rhag [[panas]], fe alwyd y ddau lysieuyn yn ''moru'' neu ''more'' sydd o'r Proto-Indo-Ewropeeg *mork- "gwreiddyn bytadwy", cf. yr [[Almaeneg]] ''Möhre'' a roddodd i ni'r Cymraeg, "morn".
 
Ceir y cyfeiriad cynharaf i "moron". Gelwyd hwy hefyd yn ''llysiau Gwyddelig'' a hefyd yn ''panas''<ref>http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html</ref> gan fod y ddau lyseuyn yn debyg iawn o ran lliw a siap hyd nes y 18g wrth i'r planhigyn gael ei ddatblygu a'i gyneuafu fwriadol i arddel y lliw [[oren]].
 
Defnyddir y gair ''Möhre'' yn yr Almaeneg am y llyseun. Mewn sawl iaith megis Iseldireg defnyddir yr un gair â'r gair am "wraidd" am y moron e.e. ''wortel'' (Iseldireg).
 
Daw'r gair carrot yn Saesneg (a roddir hefyd y gair caraits, neu garaits mewn rhai tafodieithau Cymraeg) o'r [[Frangeg]] Canol carotte,[2] sydd, ei hun yn dod o'r [[Lladin]] Hwyr, ''carōta'', o'r [[Groeg (iaith)|Groeg]] καρωτόν (''karōton'') sydd ei hun o'r gwraidd [[Indo-Ewropeeg]] *ker- (corn), yn sgil ei siâp tebyg i'r corn (mae'r gwraidd *ker hefyd, wrth gwrs, yn rho'r gair 'corn' i ni).
 
==Hanes==
[[File:CarrotDiversityLg.jpg|thumb|Gwahanol fathau o foron]]
Bu'r moron yn tyfu'n wyllt am ganrifoedd, pan ddechreuwyd ei hamaethu ymddengys bod hynny am ei dail persawrus a'i hadau yn hytrach na'r gwraidd, fel sy'n gyffredin heddiw. Canfuwyd hadau moron yn y [[Swistir]] a de'r [[Almaen]] sy'n dyddio yn ôl i 2000–3000 BC.<ref>https://en.wikipedia.org/wiki/Carrot#CITEREFRubatskyQuirosSiman1999</ref> Mae rhai o berthnasau agos y foronen yn dal i gael eu hamaethu ar gyfer eu dail ac hadau megis; [[persli]], cilantro, coriander, fennel, anise, dill a cumin. Ceir y cofnod cynharaf o'r gwreiddyn mewn ffynhonell Glasurol o'r ganrif 1af OC;roedd y Rhufeiniaid yn bwyta llyseiyn gwrieddyn o'r enw ''pastinaca'',<ref>https://books.google.co.uk/books?id=O-t9BAAAQBAJ&pg=RA4-PA387&redir_esc=y#v=onepage&q&f=false</ref> a allai unai fod yn foron neu'n banas, sy'n berthynas agos iddo.<ref>{{Cite book |author1=Zohary, Daniel |author2=Hopf, Maria |title=Domestication of Plants in the Old World |edition=3rd |publisher=Oxford University Press |year=2000 |page=203}}</ref><ref>
 
Y gwreiddyn presennol oren yw canlyniad croesffrwythlonni cymharol diweddar. Daeth y gwreiddiau cyntaf o Iran ac fe'u trosglwyddwyd i'r Iseldiroedd gan y VOC yn yr 17g.<ref>http://news.bbc.co.uk/1/hi/health/7188969.stm</ref> Gwnaed hyn er mwyn tyfu llyseiyn yn lliw teulu brenhinol y wlad, sef oren. Ond ceir amheuaeth o'r stori yma gan eraill.<ref>http://www.carrotmuseum.co.uk/history5.html</ref>
 
==Haint a phlâu==
Gall gwahanol [[Haint|heintiau]] niweidio cnwd moron. Un o'r bygythiadau mwyaf i'r moron yw'r gwibedyn gwraidd ("root fly", ''Chamaepsila rosae''). Gellir defnyddio rhwydi bach ar raddfa fach er mwyn cadw'r [[gwibedyn]] oddi ar y planhigyn. Os yw'r amaethwr yn amaethu'n organig, yna tyfir cnwd arall cryn bellter mewn cae arall er mwyn ogoi trawsmudo.
 
Mewn achos o ddiffyg cylchdroi cnydau yn ddigonnol, gall nematodau (math o lyngir) hefyd fod yn broblem. Mae yna nifer o nematodau a all achosi niwed i foron. Er mwyn atal neu reoli difrod, mae'n bwysig gwybod pa nematodau sydd yn y ddaear. Gall ymchwil niematode gynnig ateb.<ref>http://eurofins-agro.com/nl-nl/product/bodemgezondheid/aaltjesalert</ref> Mae yna nifer o fesurau i frwydro yn erbyn neu atal nematodau. Gall, er enghraifft, gwreiddyn nythmau letys (Pratylenchus) gael eu rheoli'n effeithiol trwy dyfu [[Gold Ffrainc]] (''Tagetes patula''). Mae mathau eraill o nematodau angen mesurau eraill.
 
Mae afiechydon ffwngaidd niweidiol yn gallu difetha'r dail: "Clwy Tatws Cynnar" (''Alternaria dauci''), ''Alternaria radicina'', "Pydredd Porffor Gwraidd Betys" (''Helicobasidium brebissonii'') a "Llwydni ''Erysiphe heraclei''.
 
Ar bridd tywodlyd, gall y nematod ''Meloidogyne chitwoodi'' a'r natatig ''Meloidogyne fallax'' ymddangos ymddangos.
 
=== Maethlondeb ===
Rhai mesurau maeth 100&nbsp;gram o foron:<ref>{{en}}{{Cite web |url=http://www.nal.usda.gov/fnic/foodcomp/search/ |title=USDA National Nutrient Database for Standard Reference |author=[[United States Department of Agriculture|USDA]] |deadurl=yes |archiveurl=https://web.archive.org/web/20150303000000/http://www.nal.usda.gov/fnic/foodcomp/search/ |archivedate=2015-03-03 }}</ref>
 
{| class="wikitable"
| Gwerth Ynni || 173 [[kilojoule|kJ]] (41 [[kcal]])
|-
| [[Carbohydrad]] || 9,6&nbsp;gram
|-
| [[Protein]] || 1&nbsp;gram
|-
| [[Braster]] || 0,2&nbsp;gram
|-
| [[Fitamin C]] || 5,9&nbsp;mg
|-
| [[Beta-caroten]] || 8&nbsp;mg
|-
| [[Fitamin B1]] || 0,07&nbsp;mg
|-
| [[Fitamin B2]] || 0,06&nbsp;mg
|-
| [[Calsiwm]] || 33&nbsp;mg
|-
| [[Haearn]] || 0,3&nbsp;mg
|}
 
==Dolenni==
* [http://www.bbc.co.uk/gardening/basics/techniques/growfruitandveg_growingcarrots1.shtml Sut i dyfu moron (Saesneg)]
 
==Cyfeiriadau==
 
{{eginyn planhigyn}}