Rhif gramadegol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Glanhawr (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 3:
==Enghreifftiau yng ngwahanol ieithoedd==
===Cymraeg===
Yn [[Gymraeg]] gwahaniaethir rhwng yr unigol a'r lluosog. Mae'r [[ffurfdro]] rhifol enwol yn afreolaidd iawn o ganlyniad i'r prosesau [[gramadegoleiddiad|ailddadansoddi]] a ddigwyddodd tra collai [[Brythoneg]] ei [[cyflwr gramadegol|chyflyrau]]. Er enghraifft yr hen ffurf [[cyflwr goddrychol|goddrychol]] unigol am ''bardd'' oedd '''bardos''' a'r ffurf luosog oedd '''bardi'''. Achosodd yr terfyniad lluosog '''-i''' i'r '''-a-''' ynghanol y gair gael ei hyngan fel [[dipthong]], ('''bardos''', '''beirdi'''). Dim ond manylyn bach ffonetig oedd hwn yn Frythoneg ond pan gollwyd y terfyniadau cyflwr [[gramadegoleiddiad|gramategoleiddiwyd]] yr '''-ei-''', h.y. ailddadansoddwyd yr '''-ei-''' fel marciwr lluosog. Rhodd hyn y ffurfiau cyfoes ''bardd'' a ''beirdd''. Digwyddodd newidiadau seiniol tebyg ar nifer o ferfau Brythoneg a thrwy gydweddiad fe ymestynwyd yr [[apoffoni]] newydd i ferfau eraill lle na ddatblygodd apoffoni yn ffonetig. Yn Gymraeg fordern ffurfir enwau lluosog drwy olddodiadau (''merch'' a ''merched''), apoffoni (''bachgen'' a ''bechgyn'') yn ogystal â chymysgedd o'r ddau (''gair'' a ''geiriau''). Mae patrymau tebyg yn bodoli yn Llydaweg.
 
===Ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill===