Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cernyweg"

Ychwanegwyd 142 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
(→‎Adfywiad: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: ugeinfed ganrif → 20g, unfed ganrif ar bymtheg → 16g using AWB)
[[Delwedd:Kornisch.png|de|bawd|260px|Symudiad terfyn ieithyddol Cernyweg 1300-1750]]
 
Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y [[1700au]] gan yr ieithydd o Gymro, [[Edward Lhuyd]]. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn diflannu'n gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd [[Dolly Pentreath]], a fu farw ym [[1777]]. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y [[19g]]. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, "''My ny vydn kewsel Sowsnek!''" - "dwi ddim isio siarad [[Saesneg]]!" - roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym [[1676]]. Canrif yn ddiweddarach ([[1776]]), ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i'r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, ''Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben -- poble coath, pager egance blouth''; ''Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk'' ("Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tre ni, sy'n gallu sgwrsio Cernyweg ar hyn o bryd—henbryd — hen bobl, pedwar ugain blwydd; Cernyweg yw angofiedig yn hollol wrth y bobl ieuanc").
 
== Adfywiad ==
[[Delwedd:Penzance 43133.jpg|bawd|260px|Arwydd Cernyweg - 'Croeso i Bensans', yng [[Gorsaf reilffordd Penzance|Ngorsaf reilffordd Penzance]].]]
 
Ar ddechrau'r [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]], gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y [[1920au|dauddegau]], sefydlwyd ''[[Gorsedh Kernow]]'' - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr [[Eisteddfod]] yng Nghymru. Ym [[1967]], sefydlwyd [[Kesva an Taves Kernewek]] - Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd cynorthwyo pobl Cernyw, ac eraill, i ddysgu a siarad y iaith. Ym [[1979]] sefydlwyd [[Kowethas an Yeth Kernewek]] (''Cymdeithas yr Iaith Gernyweg'') i gynrychioli y rhai sy'n siarad a dysgu yr iaith, i gyd a'i hybu mewn sefyllfaoedd pob dydd. Mae'r Gowethas yn gymdeithas agor i bawb o blaid y Gernyweg, a'i haelodau yn ffurfio etholaeth am y Gesva (Bwrdd yr Iaith).
 
Mae'r cofnod cynharaf yn y Gernyweg sydd wedi goroesi i'w ganfod mewn llawysgrif Lladin a luniwyd yn y 9g,<ref>Copi o ''De Consolatione Philosophiae'' gan Boethius yw'r llawysgrif. Mae'r nodyn Cernyweg ''ud rochashaas'' i'w weld uwchben y Lladin y mae'n ei gyfieithu. Gweler: Sims-Williams, P. 'A New Brittonic Gloss on Boethius: ud rocashaas', Cambrian Medieval Celtic Studies 50 (Winter 2005), 77-86.</ref> ond ni ddatblygodd orgraff safonol yn y Gernyweg fel ag a ddigwyddodd yn y Gymraeg. Erbyn hyn mae pedair ffordd o ysgrifennu Cernyweg.
 
Mae'r rhan fwyaf o siaradwyr yn defnyddio "''Kernewek Kemmyn''", sydd wedi'i seilio ar lenyddiaeth Cernyweg Canol gydag orgraff i gynrychioli'r seiniau tybiedig.
 
''Kernewek Unyes'' ("Cernyweg Unedig"), y ffurf a ddyfeisiwyd gan [[Robert Morton Nance]] yn bennaf, gydag orgraff Cernyweg Canol wedi'i safoni, oedd y ffurf a ddefnyddiwyd dros y rhan fwyaf o'r 20g. Hyrwyddwyd y ffurf hon gan [[Agan Tavas]].
 
Ym 1986 datblygodd [[Ken George]], awdur ''Gerlyver Kernewek-Sawsnek'' ''Kernewek Kemmyn'' (yn llythrennol Cernyweg Cyffredin). Fe fabwysiadwyd y system gan Fwrdd yr Iaith Gernyweg, ac mae hyd at 80% o ddysgwyr a siaradwyr Cernyweg yn ei ddefnyddio.
 
Yn [[1990au|y 90au]] datblygwyd ffurf adolygedig o Kernewek Unyes, UCR ("''Unified Cornish Revised''"), gan Nicholas Williams, wedi'i seilio ar destunau o gyfnod ychydig yn ddiweddarach yn yr 16g. Cyhoeddwyd geiriadur mewn UCR yn 2000.
 
Ac yn olaf, gwell gan rai siaradwyr ddefnyddio Cernyweg Diweddar, sef iaith yr [[17eg ganrif|17eg]] a'r 18goedd. Dyma'r ffurf a adferwyd yn [[1980au|yr 80au]] o dan yr enw ''Curnoack Nowedga'' ("Cernyweg Modern") gan Richard Gendall ac eraill. Mae orgraff Cernyweg Diweddar yn edrych yn aml yn debycach i orgraff y Saesneg.
 
Mae'r [[Y Testament Newydd|Testament Newydd]] wedi'i gyfieithu i Kernewek Kemmyn, ac i UCR.
 
== Enghreifftiau ==
Mae'r rhestr yma yn cymharu Cernyweg (mewn "''Furv Scrifys Savonek" ''" — "ffurflen ysgrifenedig safonol''") gyda'r ddwy iaith [[Brythoneg|Frythoneg]] arall, Cymraeg a [[Llydaweg]].
 
{|class="wikitable" width="75%"
!Cernyweg
!Cymraeg
![[Llydaweg]]
|-
| ''Kernowek''||Cernyweg||''Kerneveureg''
|-
| ''gwenenen''||gwenynen||''gwenanenn''
|-
| ''cador''||cadair||''kador''
|-
| ''keus''||caws||''keuz''
|-
| ''yn-mes''||mas, allan||''er-maez''
|-
| ''codha''||cwympo, syrthio||''kouezhañ''
|-
| ''gavar''||gafr||''gavr''
|-
| ''chi''||tŷ||''ti''
|-
| ''gweus''||gwefus||''gweuz''
|-
| ''aber''||aber||''aber''
|-
| ''niver''||nifer, rhif||''niver''
|-
| ''peren''||peren, gellygen||''perenn''
|-
| ''scol''||ysgol||''skol''
|-
| ''megy''||mygu|| ''mogediñ''
|-
| ''steren''||seren||''steredenn''
|-
| ''hedhyw''||heddiw||''hiziv''
|-
| ''whibana''||chwibanu||''c'hwibanat''
|}
 
'''== Beth yw'r gair am....''' ==
----
'''Beth yw'r gair am....'''
 
* Bore da - ''Myttin da''
* P'nawn da - ''Dohajedh da''
 
* Noswaith dda - ''Gorthuher da''
P'nawn da - Dohajedh da
* Nos da — ''Nos da''
 
* Sut wyt ti? - ''Fatla genes?''
Noswaith dda - Gorthuher da
* Iawn diolch - ''En poynt da, meur ras''
 
* Diolch - ''Meur ras dhis''
Nos da - Nos da
* Os gwelwch yn dda - ''Mar pleg''
 
* Iawn boi? - ''Hou sos?''
Sut wyt ti? - Fatla genes?
* Pwy wyt ti? - ''Piw os ta?''
 
* Allan ydw i - ''Allan ov vy''
Iawn diolch - En poynt da, meur ras
* Rydw i'n dda iawn, diolch, a ti? - ''Yn poynt da ov vy meur ras, ha tejy?''
 
Diolch - Meur ras dhis
 
Os gwelwch yn dda - Mar pleg
 
Iawn boi? - Hou sos?
 
Pwy wyt ti? - Piw os ta?
 
Allan ydw i - Allan ov vy
 
Rydw i'n dda iawn, diolch, a ti? - Yn poynt da ov vy meur ras, ha tejy?
 
==Cyfeiriadau==
119

golygiad