Mewn [[ieithyddiaeth]] '''rhif gramadegol''' yw categori o enwau, rhagenwau ac ansoddeiriau sy'n mynegi niferoedd. Mae'r rhan helaeth ieithoedd y byd yn gwahaniaethu rhwng yr unigol a'r lluosog ac mae nifer yn gwahaniaethu ffurfiau deuol hefyd.
==Enghreifftiau yng ngwahanol ieithoedd==
===Cymraeg===
Yn [[Gymraeg]] gwahaniaethir rhwng yr unigol a'r lluosog. Mae'r [[ffurfdro]] rhifol enwol yn afreolaidd iawn o ganlyniad i'r prosesau [[gramadegoleiddiad|ailddadansoddi]] a ddigwyddodd tra collai [[Brythoneg]] ei [[cyflwr gramadegol|chyflyrau]]. Er enghraifft yr hen ffurf [[cyflwr goddrychol|oddrychol]] unigol am ''bardd'' oedd '''bardos''' a'r ffurf luosog oedd '''bardi'''. Achosodd yr terfyniad lluosog '''-i''' i'r '''-a-''' ynghanol y gair gael ei hyngan fel [[dipthong]], ('''bardos''', '''beirdi'''). Dim ond manylyn bach ffonetig oedd hwn yn Frythoneg ond pan gollwyd y terfyniadau cyflwr, fe [[gramadegoleiddiad|ramadegoleiddiwyd]] yr '''-ei-''', h.y. ailddadansoddwyd yr '''-ei-''' fel marciwr lluosog. Rhodd hyn y ffurfiau cyfoes ''bardd'' a ''beirdd''. Digwyddodd newidiadau seiniol tebyg ar nifer o enwau Brythoneg a thrwy gydweddiad fe ymestynwyd yr [[apoffoni]] newydd i ferfau eraill lle na ddatblygodd apoffoni yn ffonetig. Yn Gymraeg fordern fe ffurfir enwau lluosog drwy olddodiaid (''merch'' a ''merched''), apoffoni (''bachgen'' a ''bechgyn'') yn ogystal â chymysgedd o'r ddau (''gair'' a ''geiriau''). Mae patrymau tebyg yn bodoli yn [[Llydaweg]].
===Ieithoedd Indo-Ewropeaidd eraill===
Llinell 11:
Yn y rhan fwyaf o ieithoedd De Orllewin Asia nid yw enwau yn cael eu marcio yn ôl rhif. Credir taw nodwedd awyrol yw hyn gan fod ieithoedd nad sy'n perthyn i gilydd yn rhannu'r nodwedd hon (er enghraifft [[Japaneg]] a [[Tsieinëeg]]). Yn [[Indoneseg]], dyblir yr enw i ffurfio'r lluosog, er enghraifft ''buku'' yw ''llyfr'', a ''buku-buku'' yw ''llyfrau''.