Sofliar: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
Dim crynodeb golygu Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS |
||
Llinell 18:
Mae'r '''sofliar''' ('''''Coturnix coturnix''''') yn aelod o deulu'r [[Phasianidae]], y ffesantod. Mae'n nythu ar draws rhannau helaeth o [[Ewrop]] ac [[Asia]]. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r teulu, mae'r sofliar yn [[aderyn mudol]], sy'n treulio'r gaeaf yn [[Affrica]]. Petrisen fach ydyw felly, heb fod llawer mwy nag aderyn y to, sydd yn ffynnu yng ngwledydd y de ac yn cyrraedd y parthau hyn yn achlysurol.
==Nythu==
Ar lawr y mae'r sofliar yn nythu, mewn cnydau neu laswellt. Gall nythu pan nad ond yn 6–8 wythnos oed. Dodwyir 6–18 ŵy.
==Adnabod==
Gellir adnabod y sofliar yn weddol hawdd os ceir golwg dda arni, ond mae'n aml yn anodd iawn ei gweld; ei chlywed a wneir gan mwyaf. Clywyd galwad ddigamsyniol y ceiliog ''sut-mae-siw, sut-mae-siw'' mewn cae yd ger Llyn Ystumllyn ar y cyntaf o Awst<ref>Bwletin Llên Natur rhif 7, tud.2</ref>. Mae'n aderyn bychan, 17 cm o hyd, gydag adenydd hir. Pryfed a hadau yw ei fwyd.
==Statws yng Nghymru=
A barnu wrth gynnwys gwleddoedd y Canol Oesoedd<ref>Lovegrove, R. (bbbb): Birds in Wales; Poyser</ref> mae'n debyg bod y sofliar yn llawer mwy niferus nag o fewn cof. Mae niferoedd bychan o'r sofliar yn nythu yng [[Cymru|Nghymru]] yn yr haf, ond mae'n aderyn pur brin fel rheol. Ambell flwyddyn, ceir niferoedd mwy.
=='Blynyddoedd sofliar'==
|