Palmach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 15:
==Wedi'r Rhyfel==
[[File:German squad.jpg|thumb|right|Yr '''Ha-Machlaka Ha-Germanit''': y "Platŵn Almaenig" (h.y. Comando Dwyrain Canol) a weithrdodd cyrchoedd cudd a sabotage yn erbyn targedau Natsiaid yn y Dwyrain Canol a'r Balcanau]]
Gyda diwedd yr Ail Ryfel Byd, chwaraeodd y Palmach rôl hanfodol yn y frwydr Seionistaidd yn erbyn Llywodraeth y [[Palesteina (Mandad)|Mandad Prydeinig ym Mhalesteina]]. Roedd y Palmach nawr yn ymladd yn erbyn yr union bobl roeddynt wedi ei gefnogi cwta flwyddyn neu ddwy yn gynt.
 
Am gyfnod, unodd y Palmach â sefydliadau parafilwrol Seionyddol eraill i ffurfio 'Mudiad Gwrthryfel Hebraeg'. Dyna pryd trefnodd y Palmach rhyddhad gwersyll ffoaduriaid Atlit. Defnyddiwyd y tactegau sabotage i ddymchwul pontydd, gorsafoedd radar, cerbydau heddlu, cychod patrôl a'r llongau Llynges Frenhinol Brydeinig, oedd yn ceisio rhwystro mewnfudwyr a ffoaduriaid Iddewig rhag cyrraedd Palesteina. Cymerodd y Palmach rhan weithgar yn Aliyah Bet (mewnfudo anghyfreithlon gan Iddewon) a glanio cychod anghyfreithlon ar lannau Palesteina.