Afon Alwen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
delwedd; comin
Llinell 1:
[[Delwedd:Afon Alwen - geograph.org.uk - 175958.jpg|250px|bawd|Afon Alwen yn llifo trwy Bentre-llyn-cymmer.]]
Afon yng ngogledd Cymru yw '''Afon Alwen'''. Mae'n tarddu yn [[Llyn Alwen]] ar [[Mynydd Hiraethog|Fynydd Hiraethog]] yn [[Conwy (sir)|sir Conwy]]. O'r llyn, mae'r afon yn llifo tua'r de-ddwyrain i groesi'r A543 cyn cyrraedd [[Cronfa Alwen]].
 
Yn fuan wedi gadael y llyn, llifa heibio [[Pentre-llyn-cymmer]], lle mae [[Afon Brenig]] yn ymuno a hi, ac yn mynd ymlaen tua'r de-ddwyrain heibio [[Llanfihangel Glyn Myfyr]] a [[Betws Gwerful Goch]] cyn i [[Afon Ceirw]] ymuno a hi ychydig i'r dwyrain o bentref [[Y Maerdy (Conwy)|Maerdy]]. Mae Afon Alwen yn ymuno ag [[Afon Dyfrdwy]] ychydig i'r gogledd o bentref [[Cynwyd]].
 
{{comin|Category:Afon Alwen|Afon Alwen}}
 
{{eginyn Conwy}}