Dyfrig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ListeriaBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Wikidata list updated
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Un o arweinwyr crefyddol [[Oes y Seintiau]] oedd '''Sant Dyfrig''' (m. tua 512; [[Lladin]] '''Dubricius''') a drigodd yn y [[6g]].<ref>Y Bywgraffidur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.</ref> Cysylltir ef â de [[Swydd Henffordd]] ([[Erging]]) ac ysgol [[Illtud]] Sant yn [[Llanilltud Fawr]], [[Morgannwg]]. Yn ôl traddodiad roedd Dyfrig yn athro i Sant [[Deiniol]], sefydlydd [[clas]] [[Bangor]] ([[Eglwys Gadeiriol Bangor]]) a Sant [[Teilo]], sefydlydd [[Llandeilo|Llandeilo Fawr]]. Ei ddydd gŵyl yw [[14 Tachwedd]].
 
Yn y ''Vita Samsonis'', cyfansoddiad o [[7g]] a'r ffynhonnell gynharaf am fywyd Dyfrig, roedd gryn dipyn yn hŷn na Sant Samson. Yma hefyd y cyslltir Dyfrig gydag [[Ynys Bŷr]] ond ni chredir fod cysylltiad rhyngddo â'r arysgrif ar [[Ogham|garreg Ogham]] a geir ar yr ynys. Mewn [[capel]] heb fod ymhell o'r priordy mae carreg gyda ysgrifen [[Ogam]] ac ysgrifen [[Lladin|Ladin]] arni. Mae'r ogam yn darllen - '"Dyma (golofn) Moel Dolbrochion mab .......'", a'r Lladin: '"Rwyf i wedi ei ddarpar â chroes. Gofynnaf i bawb a gerddo y ffordd hon weddïo dros enaid Cadwgan".'
 
Ceir tair buchedd, gan gynnwys gwaith [[Sieffre o Fynwy]] a [[Benedict o Gaerloyw]], ond y bwysicaf ohonynt yw'r gynharaf, sef [[Llyfr Llandaf]]. Mae'r ddogfen yn nodi rhestr o diroedd a oedd i'w trosglwyddo o [[Esgobaeth Llandaf]]. Yma hefyd, dywedir fod Dyfrig yn fab i Ebrdil merch Pebiau brenin Ercych a bod elfennau gwyrthiol i'w enedigaeth ym [[Matley|Matle]], 5 milltir a hanner i'r gorllewin o [[Henffordd]] pan iachaodd ei daid. Dywedir iddo sefydlu mynachlog '"Henlann'" (sef [[Hentland-on-Wye]]) ac iddo breswylio yno am rai blynyddoedd.
 
Wedi dioddef afiechyd a henaint, aeth i [[Ynys Enlli]] i fyw fel [[meudwy]] ac yno y bu farw ac y claddwyd ef. Ond canrifoedd wedi hynny, ym Mai 1120, cludwyd ei gorff i Landaf. Credir, bellach, mai propoganda yw'r datganiad [[oesoedd canol|canoloesol]] iddo fod yn esgob Llandaf ac yn Archesgob De Prydain.
 
Mae'r '"Fuchedd'" â'r '"Annales Cambriae'" ill dau'n cofnodi dyddiad ei farw: 612, ond bellach credir iddo farw o leiaf canrif cyn hynny.
 
===Llefydd a alwyd ar ôl Dyfrig===