486958 Arrokoth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
Gwrthrych traws-Neifionaidd yw '''(486958) 2014 MU<sub>69</sub>''', sydd a'r llysenw '''Ultima Thule''', wedi ei leoli yng [[Gwregys Kuiper|wregys Kuiper]]. Mae ei siâp yn hirfain, ac mae'n bosib ei fod yn gorff dwbl neu gysylltiol, gyda diamedr wedi ei amcangyfrif tua 30 cilomedr (20 milltir). Gyda cyfnod cylchdroadol o 295 blwyddyn a gogwydd ac echreiddiad isel, mae'n cael ei ddosbarthu fel gwrthrych gwregys Kuiper clasurol a tybir nad yw wedi profi unrhyw aflonyddiad sylweddol gyda nifer cymhedrol o geudyllau.
 
Darganfuwyd '''2014 MU<sub>69</sub>''' ar 26 Mehefin 2014 gan seryddwyr yn defnyddio [[Telesgop Gofod Hubble]] fel rhan o archwiliad y gwregys Kuiper belt am wrthrych i'w dargedu gan daith ''[[New Horizons]]'' fel rhan o'i daith estynedig ar ôl ymweld a [[Plwton (planed gorrach)|Phlwton]].<ref name="hubble_2_KBOs">{{cite web|title=Hubble Survey Finds Two Kuiper Belt Objects to Support New Horizons Mission|url=http://hubblesite.org/newscenter/archive/releases/2014/35/image/a/|work=HubbleSite news release|publisher=[[Space Telescope Science Institute]]|date=1 Gorffennaf 2014}}</ref> Cafodd ei ddewis yn hytrach na'r targedau 2014 OS<sub>393</sub> a 2014PN<sub>70</sub> i ddod yn darged sylfaenol y daith. Mae'r llysenw "Ultima Thule" yn drosiad Lladin am le wedi'i leoli y tu hwnt i ffiniau y byd hysbys, a fe'i ddewiswyd fel rhan o gystadleuaeth gyhoeddus yn 2018. Bydd tîm New Horizons yn cyflwyno enw priodol i'r Undeb Seryddol Rhyngwladol wedi'r llong ofod hedfan heibio'r gwrthrych yn Ionawr 2019, pan fydd y natur y gwrthrych yn fwy hysbys. Dyma'r gwrthrych pellaf yng Nghysawd yr haul sydd wedi ei ymweld gan long ofod.
 
== Cyfeiriadau ==