Ynys Môn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Monsyn (sgwrs | cyfraniadau)
Y fach
Dim crynodeb golygu
Llinell 72:
#Caergybi a [[Llanfaethlu]],
#[[Aberffraw]] a [[Trefdraeth]],
#[[Niwbwrch]], [[Y Gaerwen]] a [[Pentraeth]],
#[[Glyn Garth]], rhwng [[Porthaethwy]] a [[Biwmares]].
 
Ystyrir fod Ynys Môn yn cynnwys yr amrywiaeth fwyaf o greigiau o'r cyfnod Neobroterosöig hyd y cyfnod Palalosöig (700 - 300700–300 miliwn o flynyddoedd yn ôl) o fewn ardal fechan ym Mhrydain <ref>''Daeareg Ynys Môn - arweinlyfr maes'' t. 12</ref> Ceir creigiau iau mewn rhai mannau, yn arbennig creigiau Carbonifferaidd yn ne-ddwyrain yr ynys, yn cynnwys [[calchfaen]], er enghraifft yn ardal [[Penmon]].<ref>''Daeareg Ynys Môn - arweinlyfr maes'' t. 10-11</ref> Ym mis Mai [[2009]], dynodwyd Ynys Môn fel [[Geoparc]] gan [[UNESCO]] dan yr enw [[GeoMôn]].
 
== Bywyd gwyllt ==
Llinell 100:
 
Ymhlith yr henebion o'r cyfnod hwn mae:
*[[Barclodiad y Gawres]] - siambr gladdu o [[Oes y Cerrig Newydd]];
*[[Bryn Celli Ddu]] - siambr gladdu o ddechrau [[Oes yr Efydd]];
*[[Cytiau Tŷ Mawr]] - gweddillion tai o Oes yr Efydd, Oes yr Haearn a'r cyfnod Rhufeinig.
 
===Cyfnod y Rhufeiniaid ac Oes y Saint===
[[Image:House at Din Llugwy.jpg|chwith|bawd|200px|Din Llugwy: gweddillion un o'r tai crwn]]
Ymosododd y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeiniaid]] ar Ynys Môn am ei fod yn fangre lle yr oedd eu gelynion yn gallu cael lloches. Roedd y Derwyddon yn arwydd o wrthwynebiad gwleidyddol iddynt, ac roedd yno ysguboriau grawn i borthi eu gelynion. Yn ogystal yr oedd posibilrwydd cael [[copr]] yno. Mae'r [[hanes]]ydd Rhufeinig [[Tacitus]] yn disgrifio brwydr waedlyd ar yr ynys yn [[60]] neu [[61]] O. C. pan groesodd byddin dan [[Gaius Suetonius Paulinus]] dros [[Afon Menai]] mewn cychod a chipio'r ynys.
 
{{dyfyniad|Ar y lan gyferbyn yr oedd byddin y gelyn, tyrfaoedd o wŷr arfog, a merched yn rhuthro'n ôl a blaen drwy'r rhengoedd, wedi eu gwisgo mewn du fel ellyllon, eu gwallt yn chwifio yn yr awyr, a ffaglau'n fflamio yn eu dwylo. O'u hamgylch yr oedd y [[Derwyddon]] yn sefyll, eu dwylo wedi eu codi tua'r nefoedd, yn tywallt eu gweddïau erchyll.|||Tacitus|cyf. J. Owen Jones<ref>''Ynys Môn (Bro'r Eisteddfod 3) t. 31</ref>}}
 
O eiriau Tacitus, mae llawer o haneswyr wedi casglu fod yr ynys o bwysigrwydd mawr i'r [[Derwyddon]]. Fodd bynnag, nid yw Tacitus yn dweud hynny'n benodol. Bu'r Rhufeiniaid ym mwyngloddio [[copr]] ym [[Mynydd Parys]], ac adeiladwyd caer, [[Caer Gybi (caer)|Caer Gybi]], ar yr arfordir. Nid oes sicrwydd am ei dyddiad, ond credir ei bod yn perthyn i gyfnod olaf rheolaeth y Rhufeiniaid, a bod ganddi gysylltiad â'r llynges. Gerllaw, roedd tŵr gwylio ar Fynydd Twr.
 
Yn ôl y traddodiad, ymsefydlodd [[Gwyddelod]] ar Ynys Môn wedi i'r Rhufeiniaid ymadael, nes i'r brenin [[Cadwallon Lawhir]], tad [[Maelgwn Gwynedd]], eu gorchfygu yn gynnar yn y [[6g]] a'u gyrru o'r ynys. Erbyn y cyfnod yna, roedd [[Cristnogaeth]] yn lledaenu tros yr ynys. Ymhlith y seintiau y cysegrwyd eglwysi iddynt mae [[Cybi]], [[Seiriol]], [[Dona]] ac wrth gwrs [[Dwynwen]], santes cariadon Cymru, y ceir ei heglwys ar [[Ynys Llanddwyn]].
 
Mae henebion yr ynys o'r cyfnod hwn yn cynnwys:
*[[Din Lligwy]] - gweddillion stad frodorol o'r cyfnod Rhufeinig.
 
===Y Canol Oesoedd===
Llinell 121:
[[Aberffraw]] ar arfordir gorllewinol Ynys Môn oedd prif lys brenhinoedd a thywysogion [[Teyrnas Gwynedd]], a disgrifir teyrn Gwynedd yn aml fel "Brenin Aberffraw" neu "Tywysog Aberffraw". Yn yr Oesoedd Canol roedd Ynys Môn yn cynnwys y [[Cantrefi a Chymydau Cymru|cantrefi a chymydau]] canlynol:
 
*[[Cemais (cantref ym Môn)|Cantref Cemais]] - cymydau [[Talybolion]], [[Twrcelyn]];
*[[Aberffraw (cantref)|Cantref Aberffraw]] - cymydau [[Llifon]], [[Malltraeth]];
*[[Rhosyr (cantref)|Cantref Rhosyr]] - cymydau [[Menai]], [[Dindaethwy]].
 
Dioddefodd yr ynys ymosodiadau gan y Llychlynwyr, yn enwedig y Daniaid yn y cyfnod rhwng 950 a 1000. Dywedir i Godfrey Haroldson gymryd dwy fil o gaethion o Ynys Môn yn [[987]], a thalodd brenin Gwynedd, [[Maredudd ab Owain]], swm mawr i'r Daniaid i brynu ei bobl yn ôl o gaethiwed. Yn [[1994]],cafwyd hyd i safle archeolegol yn [[Llanbedrgoch]] sef olion sefydliad o gyfnod y Llychlynwyr, efallai tua'r [[10g]]. Mae cloddio archeolegol yma dros y blynyddoedd diwethaf wedi darganfod tystiolaeth yn awgrymu fod Llychlynwyr wedi ymsefydlu yma am gyfnod.
Llinell 138:
 
Ymhlith yr henebion o'r cyfnod yma mae:
*[[Llys Rhosyr]] - un o lysoedd tywysogion [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]];
*[[Castell Biwmares]] - un o gestyll a godwyd gan y [[Saeson]];
*[[Llan-faes|Priordy Llan-faes]] - man claddu [[Siwan]], gwraig [[Llywelyn Fawr]];
*[[Priordy Penmon]] - Priordy [[Urdd yr Awstiniaid|Awstinaidd]].
 
===Y cyfnod diweddar===
Llinell 311:
 
== Diwylliant ==
Roedd nifer o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] yn frodorion o'r ynys, yn cynnwys teulu o feirdd a gysylltir â [[Gwalchmai|Threwalchmai]]; [[Meilyr Brydydd]] (fl. 1100-11471100–1147), [[Gwalchmai ap Meilyr]] (fl. 1130-11801130–1180) a [[Meilyr ap Gwalchmai]] (fl. ail hanner y 12g). Ymhlith [[Beirdd yr Uchelwyr]], roedd [[Gruffudd Gryg]] a [[Lewys Môn]] o Fôn, ac ysgrifennodd Gruffudd y gerdd gynharaf sydd ar glawr yn clodfori'r ynys.
 
Bu'r ynys yn ganolbwynt i adfywiad diwylliannol yn y [[18g]], pan dyfodd cylch o lenorion ac ysgolheigion o gwmpas [[Morysiaid Môn]], yn wreiddiol o blwyf [[Llanfihangel Tre'r Beirdd]], ac yn ddiweddarach [[Pentrerianell]]. Yr enwocaf o'r teulu oedd [[Lewis Morris]] (1701-17651701–1765). Ymhlith y beirdd oedd yn rhan o'r cylch yma, daeth [[Goronwy Owen]] yn enwog. Bardd alltud oedd, wedi gadael y Sir am y tro olaf yn 23 oed, ond mae ei gerdd i'r ynys yn un o'i weithiau enwocaf:
 
:::Henffych well, Fôn, dirion dir,
Llinell 329:
Gyda phrif lys [[Teyrnas Gwynedd]] yn Aberffraw, mae'n debyg fod llawer o frenhinoedd a thywysogion Gwynedd wedi eu geni ar yr ynys, ond nid oes cofnod o fan geni'r rhan fwyaf.
 
* [[William Bulkeley]], dyddiadurwr (1691 - 17601691–1760 Brynddu, [[Llanfechell]])
* [[Dawn French]], actores (Caergybi, 1957)
* [[Hugh Griffith]], actor ([[Marianglas]], 1912)
* [[Gruffudd Gryg]], bardd (fl. c. 1340 - 13801340–1380)
* [[Gruffudd ab yr Ynad Coch]] (efallai [[Llanddyfnan]] fl. 1277 - 12831277–1283)
* [[Meinir Gwilym]], canwr, ([[Llangristiolus]], 1983)
* [[Hywel Gwynfryn]], cyflwynydd radio (Llangefni, 1942)
* [[Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn)]], bardd ([[Llandyfrydog]], 1693 – 17761693–1776)
* [[Cledwyn Hughes]], gwleidydd ([[Caergybi]] 1916 - 20011916–2001).
* [[William Jones (mathemategydd)|William Jones]], mathemategydd ([[Llanfihangel Tre'r Beirdd]], 1675)
* [[Glenys Kinnock]], gwleidydd (Caergybi, 1944)
* [[Lewis Morris]], llenor a hynafiaethydd ([[Llanfihangel Tre'r Beirdd]], 1701 - 17651701–1765)
* [[William Morris (1705-1763)|William Morris]], llenor a llysieuydd ([[Llanfihangel Tre'r Beirdd]], 1705 - 17631705–1763)
* [[John Morris-Jones]], ysgolhaig a llenor ([[Trefor, Ynys Môn|Trefor]], 1864)
* [[Goronwy Owen]], bardd ([[Llanfair Mathafarn Eithaf]], 1723)
* [[Rhys ap Tudur Fychan]], cefnder [[Owain Glyndŵr]] ac un o'i gefnogwyr amlycaf (bu farw 1412)
* [[Owain Tudur]], milwr, gŵr llys a thaid [[Harri VII, brenin Lloegr]] (tua 1400 – 14611400–1461)
* Syr [[Kyffin Williams]] RA, arlunydd (Llangefni, 1918 - 20061918–2006)
* [[Thomas Williams, Llanidan]], diwydiannwr, "Brenin y Copr" ([[Llansadwrn]], 1737 - 18021737–1802)
* [[Wynne Roberts]], hypnotydd (Caergybi, 1942/3 - 20093–2009)
 
===Eraill a chysylltiad agos a'r ynys===
* [[John Elias]] (treuliodd ran helaeth o'i oes yn Llangefni, 1774 - 18411774–1841)
* [[Bedwyr Lewis Jones]], ysgolhaig (magwyd yn [[Llaneilian]], 1933 - 19921933–1992)
* [[Henry William Paget]], Ardalydd 1af Môn (1768 - 18541768–1854)
* [[Charles Tunnicliffe]], arlunydd (treuliodd flynyddoedd ym [[Malltraeth]])
 
Llinell 359:
{|
| valign="top" |
*{{banergwlad|Almaen}} - [[Kreis|Landkreis]] [[Saalekreis]]
*{{banergwlad|Iwerddon}} - [[Swydd Dún Laoghaire-Rathdown]]
*{{banergwlad|Lesotho}} - Dosbarth [[Mafeteng]]
|}