Gwlad ar Ynys Prydain yng ngogledd orllewin [[Ewrop]] yw '''Lloegr''' ([[Saesneg]]: ''England''). Yn ddaearyddol, ac o ran poblogaeth, hi yw'r wlad fwyaf o fewn y [[Deyrnas Unedig]]. Mae'n ffinio â [[Cymru|Chymru]] i'r gorllewin a'r [[Alban]] i'r gogledd.
Yn y chweched[[6g|6ed]] a'r 7c[[7g]] cyrhaeddodd llwythau Tiwtonaidd (a gynhwysai yn ôl traddodiad yr [[Eingl]], [[Sacsoniaid]], a [[Jutiaid]]) Brydain o dir mawr Ewrop a gwladychu de a dwyrain yr ynys gan yrru'r diwylliant o'r brodorion o Geltiaid tua'r gorllewin ac i'r ardaloedd llai ffrwythlon; arhosodd eraill ac fe'u hymgorfforwyd o fewn cymdeithas y goresgynnwyr. Ymledodd rheolaeth y Saeson cynnar o dipyn i beth tua'r gorllewin a'r gogledd gan greu nifer o deyrnasoedd fel [[Wessex]], [[Mercia]], [[Essex]], [[Sussex]], a [[Northumbria]]. Colli eu hiaith a'u harferion bu hanes y [[Brythoniaid]] a oroesodd yn yr ardaloedd hynny. Ond Wessex oedd yr unig un i gadw ei hannibyniaeth ar ôl goresgyniadau'r [[Llychlyniaid]] yn yr wythfed[[8g|8fed]] a'r [[9g]], a theyrnas Wessex fu sail teyrnas Lloegr a'r [[Deyrnas Unedig]] wedyn.