Mantell dramor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Tiriogaeth: Ardddull a manion sillafu using AWB
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 26:
2 fodfedd ydy lled adenydd yr oedolyn, ar ei eithaf.
 
==Digwyddiadau hanesyddol==
 
*1879:
Ar y 14 Mehefin 1879 yn Wetzikon, [[Zürich (canton)|Canton Zürich]] gwelwyd cwmwl enfawr (un cilometr o hyd) o'r gloynnod hyn yn yr awyr. Cymerodd ddwyawr i'r cwmwl basio.<ref>Bwletin Llên Natur; Rhifyn 67; Medi 2013.</ref>
 
*1994:
Ar yr 8fed Awst 1994 cofnododd rhywun a oedd ar fordaith yn y "Southwestern Approaches" dri glöyn byw - mentyll tramor - yn hedfan dros y tonnau. Mae'r fantell dramor yn ddiarhebol am ei allu i deithio pellteroedd meithion ac ar adegau o'r math caiff ei hel, glocwedd o gwmpas gwasgedd uchel, o Affrica i'r môr cyn cyrraedd glannau Cymru. Cafwyd cofnodion yn Nhywyddiadur Llên Natur o'r gloÿnnod yn cyrraedd ein glannau ychydig ar ôl hyn.[https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn18.pdf]
 
*2009:
Erbyn canol Mai eleni (2009), nid oeddwn wedi gweld yr un o'r gloÿnnod mawr praff yma yn yr ardd ers dwy flynedd. Ond dyma lanio yn Ffrainc ar wyliau a gweld rhif y gwlith ohonynt yn y dolydd o un pen y wlad i'r llall. Ai cenhedlaeth leol oedd y rhain ynteu mewnfudwyr? Cyrraedd yn ôl o Ffrainc ddechrau mis Mehefin a'r stori'n dew ary radio ac ymysg naturiaethwyr am y mentyll tramor yma hefyd - ia, roedden nhw wedi cyrraedd Cymru fach yn f'absenoldeb.
 
Y tywydd ffafriol o gwmpas y 26ain o'r mis oedd yn gyfrifol, a'u magwrfa oedd Mynyddoedd yr Atlas, Moroco, lle bu'n cenhedlu yn arbennig o lwyddiannus eleni yn ôl y son. Soniodd rhai ar wyliau yn y wlad honno am "filiynau" o loÿnnod yn symud dros ffrynt o 100Km. Dyma ymfudiad mwyaf y fantell dramor i Brydain erioed meddai un arbenigwr. Cafodd Rhys Jones "gannoedd" yn Aberdaron, a gwelodd Twm Elias dri wrth y Twll Du yng Nghwm Idwal, ymhell o'u cynefin arferol. [https://www.llennatur.cymru/Content/Upload/Cylchgrawn18.pdf]
 
==Tiriogaeth==